Ailedrych ar fideo dadleuol am Aelod Cynulliad

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Joyce Watson gwyno am y fideo gafodd ei rannu gan Gareth Bennett

Mae Comisiynydd Safonau'r Cynulliad wedi dweud ei fod am ailedrych ar gwyn am fideo dadleuol sydd wedi cael ei alw'n "rhywiaethol" ac yn "fisogynistaidd".

Roedd Aelod Cynulliad Llafur Joyce Watson wedi gwneud cwyn i Syr Roderick Evans yn dilyn fideo ar wefan YouTube gan arweinydd UKIP yng Nghymru, Gareth Bennett.

Yn wreiddiol fe benderfynodd Syr Roderick nad oedd y fideo yn rhywiaethol nac yn fisogynistaidd ac felly ni wnaeth fynd â'r mater ymhellach.

Ond mewn datganiad fore Mawrth, fe ddywedodd Syr Roderick ei fod am "adolygu" ei benderfyniad.

'Ddim yn enaid y parti'

Yn y fideo mae Gareth Bennett yn cyfeirio at y ffaith fod Ms Watson yn arfer rhedeg tafarn, ac yn dweud "ond fyddech chi ddim yn credu hynny o edrych arni".

Dywedodd hefyd: "Dyw hi ddim yn edrych fel enaid y parti. Dwi ddim yn siŵr fyddwn i'n mynd am beint sydyn i'r dafarn leol pe bydden i'n ei gweld hi'n tynnu peintiau wrth y bar."

Mae'r fideo, sydd bellach wedi'i ddileu o YouTube, yn cynnwys delwedd o wyneb Ms Watson wedi ei osod ar gorff barforwyn mewn ffrog â gwddf isel.

Ffynhonnell y llun, senedd.tv

Disgrifiad o'r llun, Syr Roderick Evans ydy Comisiynydd Safonau'r Cynulliad

Mae'r Â鶹ԼÅÄ ar ddeall y bydd y mater yn cael ei drafod mewn cyfarfod grŵp aelodau Llafur ddydd Mawrth.

'Ymosodiad o synnwyr cyffredin'

Cafodd penderfyniad gwreiddiol Syr Roderick ei feirniadu'n llym gan nifer o aelodau cynulliad a gweinidogion.

Dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd yr Iaith Gymraeg, wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Os nad yw'r fideo yna'n rhywiaethol, dwi ddim yn siŵr beth sydd."

Roedd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies, yn feirniadol hefyd gan ddweud ar Twitter y byddai'n hoffi gweld Syr Roderick yn cael "ymosodiad o synnwyr cyffredin ac ailystyried ei safbwynt".

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Syr Roderick Evans bod y pwyllgor wedi "ymrwymo i ddiwygio Côd Ymddygiad yr Aelodau i ymgorffori Polisi Urddas a Pharch newydd y Cynulliad".

Ychwanegodd: "Gyda hynny mewn golwg, ac gan ein bod mewn cyfnod pan nad yw'r berthynas rhwng y Polisi Urddas a Pharch a Chôd Ymddygiad wedi ei ddiffinio eto, rwyf wedi penderfynu adolygu fy mhenderfyniad ar gwyn a gyflwynwyd gan Joyce Watson AC, ac, os yn briodol, i gyflwyno adroddiad ar y materion perthnasol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Safonau."