Sut mae tÅ· bwyta'n ymdopi ag alergeddau bwyd

Mae'r wedi cychwyn ymgyrch yn rhybuddio myfyrwyr ag alergeddau bwyd, sydd yn gadael adref am y tro cyntaf, i fod yn ofalus pan yn bwyta allan.

Gyda chadwyn fwyd sydd yn mynd yn fwy a mwy cymhleth yn ddyddiol, pa mor anodd yw hi i dai bwyta gadw golwg ar beth sydd a sydd ddim yng nghynhwysion y bwyd maen nhw'n ei werthu?

Gerwyn Williams yw prif gogydd a pherchennog bistro ym Metws y Coed, ac er ei fod yn paratoi'r holl brydiau yn ei gegin gyda chynhwysion lleol, mae'n credu nad yw hi o hyd yn bosib i fod yn ddiogel 100%.

Disgrifiad o'r llun, Gerwyn gyda'i gariad Connie yn ennill gwobr am y tÅ· bwyta Cymreig gorau yn Nghymru yn 2018

Cynllunio prydiau addas

"Alergedd cnau a glwten yw'r rhai mwyaf cyffredin 'dan ni'n dod ar eu traws ond dwi o hyd yn gorfod pwysleisio i bobl na fedra'i na neb arall fod yn hollol sicr bod prydiau'n rhydd o gynhwysion allai fod yn broblem.

"Mi fedra'i wneud fy nghorau i gadw byrddau torri, paniau, cyllyll ac ati ar wahân wrth baratoi. Ond y ffaith syml ydi, i rai pobl, mae mainttrace yn medru bod yn ddigon i gael effaith, a does dim un cegin tŷ bwyta, yn fy marn i, yn gallu sicrhau na fydd cnewyllyn yn medru croesi i'r pryd bwyd.

Rhaid gwirio pob cynhwysyn

"Yn ogystal â'r broblem o cross contamination posib, mae cynhwysion fel stoc neu ddeunydd tewhau sawsys a chynwysion ymylol hefyd yn broblem.

"Mae'n rhaid edrych i sicrhau fod yna ddim cynhwysyn allai fod yn broblem fan'na chwaith. Wrth gwrs mae pobl yn medru bod ag alergedd i bethau eraill heblaw cnau a glwten. Dwi 'di cael sefyllfa o rywun oedd ag alergedd i foron, ac mae hyn yn cymhlethu pethau ymhellach!

"Dwi hefyd wedi cael cwsmer oedd ag alergedd i goriander ac nid dim ond coriander ffres, ond coriander wedi'i sychu hefyd. Felly roedd yn rhaid edrych ar unrhyw marinades, unrhyw sbeis allai fod yn bresennol ym mhob pryd i sicrhau ei fod yn rhydd o goriander sych.

Disgrifiad o'r llun, Pryd blasus o fwydydd gwahanol, neu loteri bwyd?

Enghreifftiau annisgwyl

"Weithiau, dwi wedi addysgu pobl sydd ag alergedd yn erbyn bwyta rhywbeth allai fod yn broblem. Er enghraifft, dydi saws soy ddim yn gluten-free a ges i rywun unwaith yn archebu hwyaden mewn tsili a saws soy oedd ag alergedd glwten.

"Mae cwrw'n ddeunydd arall sydd ar y cyfan ddim yn gluten-free (er mae cwrw arbennig heb glwten ar gael). Dydi hyn ddim yn swnio'n broblem efallai, ond i chi beidio archebu cwrw.

"Ond dwi'n defnyddio cwrw gyda'r caws mewn Welsh Rarebit felly mae'n rhaid bod yn ofalus iawn, nid yn unig fod y fwydlen yn dangos hyn, ond fod y person hefyd wedi sylwi ac yn cadw draw o'r pryd.

Rhagrybudd yn bwysig

"Yn syml felly, rhaid bod yn ofalus a byddwn i'n cynghori unrhywun sydd ag alergedd bwyd i ddweud wrthom bell o flaen llaw, wrth archebu'r bwrdd os yn bosib, fel bod modd nodi a thrafod unrhyw anghenion arbennig a pharatoi'n iawn ar eu cyfer.

Disgrifiad o'r llun, Hyd yn oed mewn cegin o'r radd flaenaf, does dim gwarant 100%, yn ôl Gerwyn Williams

"Yr enghraift fwyaf difrifol gefais i oedd rhywun oedd wedi dod yr holl ffordd o'r America nad oedd yn medru bwyta halen! Pan ofynnais iddo oedd yn golygu halen ychwanegol neu halen sydd yn digwydd yn naturiol mewn ambell i fwyd, dywedodd o 'y ddau'.

"Wel beth allwch chi ei wneud? Yn y diwedd, ar ôl trafod yn ofalus, dewisodd stêc wedi'i grilio gyda salad plaen a thatws newydd heb halen ac roedd pob dim yn iawn, ond andros oedd o'n sialens!

Pwyso a mesur

"Y trueni yw, fel cogydd, eich bod chi'n cael eich temtio pan 'da chi'n cynllunio bwydlen newydd, i ddyfeisio prydiau sy'n llawer mwy syml a gyda llai o gynhwysion er mwyn osgoi unrhyw ddryswch posib... Ond wrth gwrs, 'da chi wedyn yn cyfyngu'ch bwyd a'r blasau posib allwch chi eu cynnig i bobl sydd heb alergeddau.

"Felly mae'n bwysig cofio hynny a chael balans call o brydiau syml sy'n hawdd eu haddasu a phrydiau mwy cywrain i'ch cwsmer cyffredin. Dyna'r sialens."

Hefyd o ddiddordeb: