Comisiynydd Heddlu: 'Ymddygiad anaddas'

Ffynhonnell y llun, EyeImagery

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Arfon Jones ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd yn 2016

Mae ymchwiliad i honiadau o sylwadau bygythiol mewn negeseuon Twitter gan Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd wedi arwain at blismyn yn gorfod ei gynghori am "ymddygiad anaddas".

Mae Arfon Jones wedi ymddiheuro wrth yr achwynwr anhysbys.

Cafodd y mater ei drafod yn ystod cyfarfod o Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru brynhawn dydd Llun.

Roedd y cwynion yn ymwneud ag ymddygiad a defnydd Mr Jones o gyfryngau cymdeithasol yn 2017, ac unwaith eto yn 2018.

Mae Arfon Jones yn ysgrifennu ar ddau gyfrif ar wefan Twitter - un Comisiynydd Heddlu'r Gogledd ac un personol.

Yn ôl nodiadau a gafodd eu rhyddhau cyn y cyfarfod ddydd Llun, fe dderbyniodd y Panel chwe chwyn yn erbyn y Comisiynydd rhwng Mehefin 2017 a Mawrth 2018.

Roedd hanner y rheiny yn ymwneud â'i ddefnydd o wefannau cymdeithasol.

Fe wnaeth Arfon Jones ymddiheuro ar ôl i Uwch Swyddog ymchwilio ddod i'r casgliad fod ei ymddygiad ar ei gyfrif personol ar y wefan Twitter ym mis Mehefin 2017 yn "anaddas".

Fe wnaeth y Panel hefyd ystyried canlyniadau cwyn arall ym mis Mawrth eleni.

Cafodd y gŵyn ei hystyried gan yr Is-Bwyllgor Cwynion ym mis Mai, ac fe gafodd Mr Jones ei gynghori i ddileu unrhyw gyfeiriad at ei rôl fel comisiynydd o'i gyfri personol.