Â鶹ԼÅÄ

Llywodraeth yn cyhoeddi £51m 'i hybu addysg Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Eluned MorganFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan AC, yn ymweld ac Ysgol Gwynllyw fydd yn agor ysgol gynradd newydd ar y safle

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu manylion gwariant diweddaraf ar hybu addysg Gymraeg.

Fe fydd £51m yn cael ei wario ar "gefnogi tua 41 o brosiectau mewn 16 awdurdod lleol, a chreu 2,818 o lefydd ysgol a gofal plant ychwanegol i ddysgwyr Cymraeg".

Fe wnaeth Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, y cyhoeddiad yn ystod ymweliad ag Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl fore Mercher.

Yno, bydd ysgol gynradd newydd yn cael ei hagor gyda meithrinfa ar y safle, a hynny o ganlyniad i dderbyn arian o dan y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg.

Mae Mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad, ond yn galw ar awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer yr hirdymor hefyd.

Datblygiad 'arloesol' Sir Ddinbych

Ymysg y prosiectau fydd yn derbyn arian fydd yr ysgolion cynradd newydd Cymraeg ym Merthyr Tudful a Thorfaen, a'r ysgol cyfrwng Gymraeg gyntaf erioed yn nhref Mynwy.

Bydd hefyd yn golygu gwella cyfleusterau meithrin yn Rhondda Cynon Taf, creu lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ac ymestyn y ddarpariaeth mewn ysgolion yng Nghaerffili.

Bydd arian hefyd yn cael ei wario ar greu canolfan Gymraeg 'arloesol' yn Sir Ddinbych.

Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych bydd y safle yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn ganolfan fydd ar gael i blant meithrin, a phlant sydd angen cymorth i ddysgu'r iaith yn ystod Cyfnodau Allweddol 2 a 3.

Eu bwriad hefyd ydy darparu adnoddau ar gyfer datblygu deunyddiau Iaith Gymraeg ac maen nhw'n ystyried y posibilrwydd hefyd o gynnal gwersi i oedolion y tu hwnt i oriau ysgol.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr arian yn cael ei wario ar greu canolfan 'arloesol' ar safle Ysgol Glan Clwyd, meddai Cyngor Sir Ddinbych

Ar y Post Cyntaf dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, bod datblygu addysg Gymraeg yn "hanfodol" yn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a bod y cynllun yn cymryd "camau clir" tuag at hynny.

Dywedodd bod yr arian yn rhoi cyfle i lywodraeth leol "ehangu yn y ffordd 'y ni eisiau iddyn nhw ehangu", ac er bod rhai wedi cymryd "bach o bryfocio" i wneud hynny, eu bod wedi ymateb a bydd y lleoedd newydd am addysg Gymraeg ar gael.

Dywedodd hefyd bod y cynllun yn "gam pwysig ymlaen" i agor ysgolion mewn ardaloedd di-Gymraeg, a'i gobaith ydy "trawsnewid agweddau tuag at y Gymraeg yn yr ardaloedd hynny".

Mae hi hefyd wedi dweud bod "gwella a chynyddu gwersi Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg" yn "agor y drws i'r dyfodol ac yn gosod y sylfeini cywir i gyrraedd y targed yma".

Cynllunio hir dymor 'deallus'

Tra'n croesawu'r cyhoeddiad dywedodd mudiad Dyfodol i'r Iaith eu bod "yn falch iawn o glywed bod yr arian ar gael ar gyfer hyrwyddo angen mor allweddol" ond bod angen i'r Llywodraeth hefyd bwyso ar awdurdodau lleol i gynllunio'n well.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y Mudiad: "Byddwn yn pwysleisio ..... ein bod am weld y Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol greu cynlluniau i ddatblygu addysg Gymraeg dros gyfnodau o 10 ac 20 mlynedd er mwyn sicrhau cynllunio pellgyrhaeddol."

"Bydd angen cefnogi'r gwariant gyda rhaglen sy'n caniatáu gweithredu brys a chynllunio hirdymor deallus er mwyn creu cynllun eang a fydd yn cyfrannu'n realistig at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg."