Â鶹ԼÅÄ

Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd yn bwriadu dysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Carl FoulkesFfynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carl Foulkes yn dechrau ar ei waith fel prif gwnstabl Heddlu'r Gogledd ym mis Tachwedd eleni

Mae prif gwnstabl newydd Heddlu'r Gogledd wedi addo bod dysgu Cymraeg yn flaenoriaeth iddo wrth ymgymryd â'r swydd.

Cafodd penodiad Carl Foulkes, sy'n wreiddiol o Gaergwrle ger Wrecsam, ei gadarnhau gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i olynu Mark Polin ddydd Llun.

Yn ogystal â dysgu Cymraeg, mae Mr Foulkes yn bwriadu canolbwyntio ar ddiogelu unigolion sy'n dioddef o drais yn y cartref a thaclo troseddu cyfundrefnol.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu'r Gogledd, cafodd "yr unigolyn cywir" ei benodi i daclo'r heriau cyfoes sy'n wynebu'r llu.

'Uchafbwynt' ei yrfa

Cyn dechrau ei swydd fel prif gwnstabl ym mis Tachwedd eleni, fe fydd Mr Foulkes yn mynychu cwrs dwys yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Dywedodd Mr Foulkes bod dychwelyd i Gymru - wedi blynyddoedd yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, a gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig, Heddlu Canolbarth Lloegr a Heddlu Glannau Mersey - i fod yn brif gwnstabl yn "uchafbwynt" yn ei yrfa.

"Does dim llawer o brif swyddogion yn cael cyfle i fod yn brif gwnstabl yn y lle y cawsant eu geni, lle mae eu teulu'n byw, ac mewn ardal sy'n agos iawn at eu calon," meddai.

"Dwi hefyd yn edrych ymlaen am y cyfle i wneud gwahaniaeth mawr i gymunedau Gogledd Cymru."

Yr unigolyn cywir

Ychwanegodd Mr Foulkes ei fod yn awyddus i gyd weithio gyda Chomisiynydd Heddlu'r Gogledd i gynorthwyo pobl sy'n gaeth i gyffuriau ac i edrych ar ddulliau ataliol o ddelio gyda throseddu.

Yn ogystal dywedodd: "Mae angen i ni sicrhau bod gennym sefydliad sy'n mynd i weithio dros y pum mlynedd nesaf, nid dim ond ar gyfer heddiw."

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, fod Mr Foulkes yn "ddyn egwyddorol â gweledigaeth glir" a fydd yn adeiladu ar waith ei ragflaenydd, Mark Polin.

Dywedodd Mr Jones: "Gyda chyllidebau'n gostwng yn gyson, ni ddylem fod yn ddibris o faint yr heriau sydd o'n blaenau, ond rwy'n teimlo'n sicr bod gennym yr unigolyn cywir i wneud y gwaith."