Â鶹ԼÅÄ

Pecyn Samariaid Cymru i sicrhau tosturi yn y gweithle

  • Cyhoeddwyd
iselderFfynhonnell y llun, PA

Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd mae Samariaid Cymru wedi cyhoeddi manylion pecyn cymorth newydd i weithleoedd yng Nghymru.

Mae'r pecyn yn cynnig awgrymiadau i staff ar sut i wrando'n well a gwybod beth i wneud pan fo cydweithiwr yn cael argyfwng iechyd meddwl.

Dywedodd llefarydd ar ran Samariaid Cymru eu bod am "bwysleisio pwysigrwydd trin gweithwyr sy'n mynd trwy gyfnod anodd gyda thosturi".

Bwriad 'Gweithio gyda Thosturi - Pecyn Cymorth i Gymru' yw hybu diwylliant lle mae gan bobl hyder i ofyn am help, ac i roi help i eraill pan fo angen.

Mae yna ymdrechion hefyd i gael gwared ag unrhyw stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl.

Dywedodd llefarydd: "Ry'n i gyd yn dioddef trallod emosiynol ar ryw adeg yn ein bywydau ac mae gan un ym mhob pedwar ohonom iechyd meddwl gwael, felly dylem ddefnyddio'r profiadau hyn i ymdrin â phobl â thosturi."

Pobl di-waith yn teimlo'n isel

Wrth lawnsio'r pecyn cymorth mae'r Samariaid hefyd yn cyhoeddi canlyniadau gwaith ymchwil sy'n dangos bod cyfraddau hunanladdiad ddwywaith i deirgwaith yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae'r ymchwil yn dangos fod pobl sy'n ddi-waith ddwywaith i deirgwaith yn fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad na phobl sydd mewn gwaith.

Mae'n nodi hefyd bod risg ymddygiad hunanladdol yn cynyddu pan fo unigolyn yn wynebu digwyddiadau negyddol mewn bywyd, gan gynnwys tor-perthynas a theimlo'n unig o fewn cymdeithas, neu'n wynebu stigma, trallod emosiynol neu iechyd meddwl gwael.

Mwy yn lladd eu hunain

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad, John Griffiths AC ei fod yn cefnogi'r pecyn cymorth gan obeithio" y bydd yn helpu llawer o weithleoedd i ddeall pwysigrwydd tosturi yn eu bywydau gwaith dyddiol.

"Mae hunanladdiad yn fater o bwys ym maes iechyd y cyhoedd," dywedodd. "Mae'r ffaith fod Samariaid Cymru'n profi y gall tlodi fod yn ffactor cyfrannol o bwys yn dangos bod arnom angen strategaeth tlodi trosfwaol yng Nghymru i helpu'r nifer cynyddol o unigolion sy'n cael trafferth i ymdopi."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod hunanladdiad ar gynnydd

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod mwy o achosion o hunanladdiad wedi eu cofnodi yng Nghymru yn 2017 - 360 o'i gymharu â 322 yn 2016.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol y Samariaid yng Nghymru, Sarah Stone: "Gwyddom fod hunanladdiad ac anghydraddoldeb yn gysylltiedig. Mae ein hymchwil wedi canfod bod ardaloedd â mwy o amddifadedd economaidd gymdeithasol yn tueddu i fod â chyfraddau hunanladdiad uwch.

"Yng Nghymru, mae bron chwarter y boblogaeth yn byw mewn tlodi a gwyddom fod yr amgylchiadau hyn yn cynyddu'r risg o fod mewn trallod emosiynol.

"Rydym wedi llunio'r pecyn cymorth hwn i helpu gweithleoedd, o ganolfannau gwaith i fanciau, i weithredu'n fwy tosturiol wrth ymdrin â chwsmeriaid neu gleientiaid sy'n mynd trwy galedi."

Rhif ffôn gwasanaeth Cymraeg di-dâl y Samariaid yw 0808 164 0123.