Â鶹ԼÅÄ

'Angen rhoi barn ar gynlluniau Brexit Llywodraeth Cymru'

  • Cyhoeddwyd
tirwedd cymru ger aberhonddu

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog ffermwyr i fynychu cyfarfodydd, a drefnir ganddynt ar draws Cymru yn ystod y dyddiau nesaf, er mwyn trafod dyfodol economi Cymru wledig.

Yn ystod yr haf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion dau gynllun newydd i ariannu'r sector amaethyddol ar ôl Brexit.

Bydd y cymorthdaliadau presennol, sy'n cael eu talu'n uniongyrchol i ffermydd a sy'n seiliedig ar faint o dir sydd ganddyn nhw, yn dod i ben.

O dan y drefn newydd bydd arian yn cael ei roi i hyrwyddo "gwydnwch economaidd" a chynorthwyo ffermwyr i ddarparu "nwyddau cyhoeddus".

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn dod i ben ar Hydref 30 2018.

Ofni'r dyfodol

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, "Tra bod ffermwyr ar draws Cymru yn brysur yn cynllunio sut i ddelio â canlyniadau'r tywydd diweddar, mae'n bwysig eu bod yn edrych ymhellach ar ddyfodol eu busnesau yn wyneb cynlluniau'r Llywodraeth.

"I fod yn blaen y bwriad yw cael gwared â'r taliadau sylfaenol sy'n cyfrannu oddeutu 80 y cant i incwm y fferm a chyflwyno cynllun amaeth-amgylcheddol.

"O ystyried bod ffermwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwriadu cadw eu taliadau uniongyrchol, yn yr un modd â phob gwlad arall yn yr UE, mae angen i ffermwyr Cymru drafod sut y maent yn mynd i fyw heb gefnogaeth ariannol uniongyrchol."

Ychwanegodd Mr Roberts ei fod yn "ofni y bydd cynllun newydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn gymwys i unrhyw un sydd â thir, yn tynnu cyllid oddi ar economi wledig Cymru ac yn ei roi i elusennau a busnesau mawr.

"Rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb yn economio wledig Cymru ddatgan eu barn a chyflwyno eu sylwadau i'r ymgynghoriad ac felly rwy'n gobeithio'n fawr y bydd modd i gynifer o bobl â phosib fynychu ein cyfarfodydd."

Bydd y cyntaf o'r cyfarfodydd yn cael ei gynnal yn Nolgellau nos Lun.

Mae manylion y cyfarfodydd eraill i'w gweld ar wefan .