Â鶹ԼÅÄ

'Un o bob saith' myfyriwr yn twyllo ar eu traethodau

  • Cyhoeddwyd
myfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib bod tua un o bob saith myfyriwr bellach yn talu rhywun arall i wneud gwaith academaidd ar eu rhan, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Abertawe.

Yn ôl yr ymchwilwyr, wnaeth edrych ar batrymau astudio myfyrwyr ar draws y byd, mae mwy a mwy ohonynt yn troi at dwyllo er mwyn cwblhau eu traethodau.

Dywedodd yr Athro Phil Newton, un o awduron y papur, ei bod hi'n bosib iawn fod y gwir ganran yn uwch na hynny am fod myfyrwyr yn gyndyn o gyfaddef twyllo.

Ychwanegodd yr Athro Newton fod yr ymchwil yn dangos yr angen i daclo 'melinau traethodau', sydd ar hyn o bryd yn gyfreithlon yn y DU.

'Angen deddfwriaeth'

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod cyfartaledd o 3.5% o fyfyrwyr wedi cyfaddef twyllo, ond bod y canran hwnnw wedi codi i 15.7% ers 2014.

Gallai hynny, medden nhw, olygu bod tua 31 miliwn o bobl ar draws y byd wedi talu rhywun arall i wneud gwaith drostyn nhw.

Cafodd yr ymchwil ei wneud wrth edrych ar wybodaeth oedd yn cwmpasu'r 40 mlynedd diwethaf, ac oedd wedi holi 54,514 o bobl.

Dywedodd yr ymchwilwyr bod llawer yn defnyddio melinau traethodau, sydd wedi'u gwahardd mewn llawer o wledydd yn y byd ond yn parhau i fod yn gyfreithlon yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i wefannau ble mae modd prynu traethodau parod, mae 'melinau traethodau' yn ysgrifennu darn o waith penodol i fyfyriwr

Mae'n system ble mae modd i fyfyrwyr dalu cwmnïau i ysgrifennu darn penodol o waith ar eu rhan, yn hytrach na phrynu traethawd o'r we sydd eisoes wedi'i ysgrifennu.

"Mae risg bod y DU yn dod yn wlad lle mae melinau traethodau yn ei chael hi'n hawdd cynnal busnes," meddai'r Athro Newton, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Ychwanegodd: "Mae'r canfyddiadau hyn yn tanlinellu'r angen am ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â melinau traethodau, ochr yn ochr â gwelliannau yn nulliau asesu myfyrwyr a chynyddu ymwybyddiaeth o hanfodion uniondeb academaidd.

"Mae angen i ni ddefnyddio dulliau asesu sy'n hyrwyddo dysgu ac ar yr un pryd yn lleihau'r tebygrwydd o dwyllo dan gontract."