Balchder C么r Meibion Hoyw De Cymru

Disgrifiad o'r fideo, C么r Meibion Hoyw De Cymru yn ymarfer yng Nghaerdydd

Mae yn 10 oed eleni.

Syniad Andy Bulleyment, yr arweinydd, oedd sefydlu'r c么r i ddechrau "oherwydd fod gan bob dinas arall g么r hoyw!"

Mae wedi tyfu o rhyw 15 aelod yn wreiddiol i 40 aelod bellach ac yn mynd o nerth i nerth, a bob amser yn croesawu aelodau newydd.

Er mai yng Nghaerdydd mae'r c么r yn ymarfer, mae aelodau yn teithio mor bell ag Abertawe a Chas-gwent i ddod i'r ymarferion.

Bydd y c么r yn cymryd rhan ym mhenwythnos yng Nghaerdydd dros benwythnos g诺yl y banc ac yn perfformio ar y prif lwyfan ar y prynhawn Sadwrn.

Fis Awst nesa', bydd g诺yl gorawl LHDT Hand in Hand yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, a hynny am y tro cyntaf. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, Canolfan y Mileniwm, y Senedd a nifer o leoliadau eraill ar draws Caerdydd, felly mae yna lawer o waith paratoi o'u blaenau!