Apêl yn Nyffryn Clwyd am eirin Dinbych wedi tyfiant gwael

Mae cynhyrchwyr bwyd yn Nyffryn Clwyd yn gofyn am help y cyhoedd i ddod o hyd i fwy o eirin Dinbych - yr unig fath sy'n gynhenid i Gymru.

Yn yr hydref, bydd gŵyl yn cael ei chynnal am y degfed tro i ddathlu'r eirin ond mae yna bryder yn Ninbych bod dim digon wedi tyfu eleni.

Tywydd oer yn ystod y gwanwyn sy'n cael ei feio am y prinder, ac mae trefnwyr yr ŵyl yn gofyn i bobl leol gysylltu â nhw os oes eirin dros ben ar gael.

Dywedodd Nia Williams o grŵp Eirin Dinbych bod sychder yn ystod y ddeufis diwethaf "heb helpu'r sefyllfa chwaith".

Statws arbennig?

Mae'r eirinen yn tyfu yn Nyffryn Clwyd ers canrifoedd, ac mae'n nesáu at dderbyn statws Ewropeaidd arbennig.

Gobaith grŵp Eirin Dinbych yw y daw'r dogfennau i gadarnhau'r statws arbennig cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd y flwyddyn nesa'.

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl Nia Williams o grŵp Eirin Dinbych mae tywydd oer y gwanwyn a sychder yr haf wedi cyfrannu ar brinder

Bydd Gŵyl Gwledd Eirin Dinbych yn cael ei chynnal am y degfed tro ym mis Hydref.

Gobaith trefnwyr yr ŵyl yw y gall bobl leol sydd ag eirin dros ben sicrhau bod digon i'w rhannu rhwng yr holl gynhyrchwyr bwyd.

"Os oes gan unrhyw un yn Nyffryn Clwyd goeden eirin Dinbych a bod dal ffrwyth gyda nhw, bod y ffrwyth yn mynd i ofer oni bai bod ni'n dod i'w pigo nhw," meddai Mrs Williams.

"Nawn ni ddim lledaenu'r neges ble mae'r goeden ond mi fase ni'n ddiolchgar iawn petawn nhw'n cysylltu â ni."