Â鶹ԼÅÄ

Rhys Ifans: Bywyd yn 'uffern' achos 'sylw hunllefus' y wasg

  • Cyhoeddwyd
Garry Owen a Rhys Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Bu Garry Owen yn cyfweld â Rhys Ifans ar gyfer rhaglen arbennig i Radio Cymru

Mae un o actorion amlycaf Cymru, Rhys Ifans, wedi cyfaddef bod sylw'r wasg wedi gwneud ei fywyd yn "uffern" am gyfnod.

Dywedodd yr actor iddo gael gwybod gan yr heddlu bod papurau newydd wedi bod yn clustfeinio ar ei alwadau ffôn dros gyfnod o naw mlynedd.

Roedd Mr Ifans yn siarad mewn cyfweliad dadlennol gyda Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru - cyfweliad a gafodd ei ddarlledu ddydd Llun am 13:00.

Yn ystod y sgwrs mae'n cyffwrdd ag amryw o destunau gwahanol sy'n amgylchynu ei fywyd a'i waith, gan gynnwys ei waith fel llysgennad Shelter Cymru a'i awydd i berfformio yng Nghymru.

'Effaith enbyd'

Mae Rhys Ifans yn perfformio yng nghynhyrchiad Eugene Ionesco, Exit the King, yn Theatr Olivier yn y National, Llundain tan yr hydref.

Wrth drafod gyda Garry Owen dywedodd bod "cyfnod yn fy mywyd i lle o'n i'n ca'l sylw hunllefus gan y wasg".

"O'n i methu mynd i unman a mi nes i ddarganfod, pum mlynedd wedyn, am gyfnod o naw mlynedd mi oedd fy ffôn i'n cael ei dapio gan y Daily Mirror a News of the World," meddai.

"O'n i'n troi fyny i lefydd ac oedd 'na paparazzi yna a doedd gen i ddim syniad. Oedd hynna am gyfnod o dair, bedair blynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Rhys Ifans yn serennu ar lwyfan y National Theatre yn ei sioe ddiweddaraf, 'Exit The King'

"O'dd fy mywyd i'n uffern ma' rhaid fi gyfadde' - mi gafodd o effaith enbyd arna fi'n emosiynol.

"Ma' rhywun yn trio peidio cymryd sylw o'r peth ond pan mae o ar y lefel yna mae o'n anodd iawn, iawn, iawn ymdopi efo bywyd normal."

'Celwydd noeth'

Daeth News of the World, papur newydd mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig, i ben yn 2011 ar ôl honiadau o hacio ffonau symudol oedd yn ymestyn yn ôl blynyddoedd.

Ond er gwaethaf ei brofiadau personol, mae Rhys Ifans yn grediniol bod gan y wasg rôl bwysig o hyd.

"O ddeud hynna i gyd, os fysa rhaid fi ddewis rhwng rhyddid y wasg a chael poendod yn fy mywyd i am 'chydig flynyddoedd, mi fyswn i'n mynd am ryddid y wasg," meddai.

"Ond dim dyna ydy'r pwynt. Oedd be' oeddan nhw'n 'neud yn hollol anghyfreithlon ac, wrth gwrs, o'dd 99.9% o'r straeon yna'n gelwydd noeth."

Disgrifiad o’r llun,

Garry Owen yn holi Rhys Ifans ar set ei gynhyrchiad diweddaraf

Yn y cyfweliad gyda Garry Owen mae Rhys Ifans hefyd yn sôn am ei rôl fel Llysgennad Shelter Cymru.

Dywedodd mai un o'r rhannau mwyaf heriol iddo'i berfformio oedd drama un dyn - Protest Song - yn olrhain hanes dyn digartref o Lerpwl sy'n cysgu ar y stryd tu allan i Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain.

Mae hefyd yn dweud yr hoffai weithio yng Nghymru eto, gan fynnu bod hynny'n "mynd i ddigwydd" rhyw ddydd.

Ac wrth sôn am berfformio yn gyffredinol mae'n disgrifio ei deimladau cyn pob sioe.

"Mae anticipation hyfryd yn y deg munud cyn camu ar y llwyfan. Wedyn mae'r rhyddhad yn palpable."

Gwrandewch ar y cyfweliad yn llawn ar iPlayer Radio.

Cafodd y cyfweliad ei ddarlledu ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru am 13:00 Ddydd Llun, 27 Awst.