Â鶹ԼÅÄ

Pump yn yr ysbyty wedi i geffyl eu taro yn Sioe Penfro

  • Cyhoeddwyd
Ceffyl PenfroFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae llefarydd ar ran sioe amaethyddol Penfro wedi cadarnhau fod pum person wedi'u cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad gyda 'cheffyl gwyllt' ddydd Mercher.

Fe gafodd y person oedd yn marchogaeth y ceffyl ar y pryd ei daflu oddi ar ei gefn, cyn i'r ceffyl neidio dros ffens i ganol y dorf.

Cafodd wyth person eu hanafu.

Ymhlith y pump sydd wedi'u cludo i'r ysbyty mae bachgen 12 oed a dyn 83 oed.

Dywedodd y trefnwyr nad oedd yr anafiadau yn rhai difrifol iawn, ac ychwanegodd Cadeirydd y sioe, Mike Davies, fod "meddyliau pawb gyda'r rhai sydd wedi'u hanafu."

'Rhedeg yn wyllt'

Yn ôl llygaid dystion, fe garlamodd y ceffyl drwy faes y sioe ar ôl llwyddo i ddianc o'r ardal lle oedd yn cael ei ddal.

Roedd Ambiwlans Awyr ar y safle yn cynorthwyo gweddill y gwasanaethau brys.

Dywedodd Jonathan Twigg oedd yn sefyll ychydig droedfeddi i ffwrdd: "Fe dorrodd y ceffyl yn rhydd o'r ardal lle roedd yn cael ei ddal cyn dechrau rhedeg yn wyllt.

"Roedd yn rhedeg drwy'r dorf ac fe darodd tua chwe pherson allan o'r ffordd. Mae'n ymddangos fod sawl un yn cael triniaeth i anafiadau i'w pen gan swyddogion meddygol," meddai.

Disgrifiad,

Cafodd yr Ambiwlans Awyr ei alw ond doedd dim o'i angen

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan FFP

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan FFP

Dywedodd llygad dyst arall: "Clywais stiward yn gweiddi a rhedeg drwyddo, yn rhedeg drwy'r cylch.

"Aeth y ceffyl mas o'r cylch, pobl yn trio'i atal. Rhedodd drwy'r ffens, trwy'r dorf, trwy'r stondinau a'r stondinwyr.

Yn ôl y newyddiadurwraig Anwen Francis, oedd yno ar y pryd, fe ymatebodd trefnwyr y sioe yn syth wedi i'r ceffyl dorri'n rhydd.

"Fe nethon nhw bopeth oedden nhw'n fod i'w wneud. Nethon nhw stopio'r cystadlu yn y cylch yn syth, a galw am barafeddygon ac ambiwlans.

"Dwi di bod yn dangos ceffylau ers 35 o flynyddoedd a dwi ddim wedi gweld dim byd fel hyn erioed o'r blaen," meddai.

'Diolch'

Ychwanegodd Mr Davies: "Hoffem ddiolch i'r gwasanaethau brys lwyddodd i gyrraedd y safle'n sydyn a chynorthwyo'r rhai a gafodd eu hanafu.

"Bydd adolygiad llawn yn cael ei gynnal i'r amgylchiadau," meddai.

Bydd y sioe yn parhau fel yr arfer ddydd Iau.