Â鶹ԼÅÄ

Safon Uwch: Blwyddyn wedi'r canlyniadau

  • Cyhoeddwyd
Nathan, Iona a Math
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan Pycroft (chwith) Iona Stewart a Math Roberts i gyd wedi cymryd llwybrau gwahanol ar ôl derbyn eu canlyniadau Safon Uwch union flwyddyn yn ôl

Union flwyddyn yn ôl roedd disgyblion Safon Uwch dros Gymru yn paratoi i gasglu eu canlyniadau fyddai'n siapio gweddill eu bywydau.

Roedd Cymru Fyw yno, yn adrodd ar emosiwn y diwrnod ac yn cael ymateb disgyblion dros Gymru i'w canlyniadau.

Tri wnaeth rannu eu canlyniadau gyda Cymru Fyw bryd hynny oedd Nathan Pycroft, Iona Stewart a Math Roberts.

Blwyddyn yn ddiweddarach mae'r tri yn edrych yn ôl i'r diwrnod pan gasglon nhw eu canlyniadau ac yn disgrifio ble maen nhw nawr.

Ffynhonnell y llun, NAthan Pycroft
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan bellach yn astudio Peirianwaith Mecanyddol ym Mhrifysgol Caerhirfryn

Mae Nathan Pycroft o Lanberis o ar hyn o bryd yn astudio peirianwaith mecanyddol ym Mhrifysgol Caerhirfryn.

Yn ei arholiadau Safon Uwch, llwyddodd i ennill gradd A* mewn Mathemateg, A mewn Cemeg, A mewn Ffiseg, a B yn y Fagloriaeth Gymreig.

"Ar fore'r canlyniadau mi o'n i'n teimlo bach yn nerfus. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael graddau mor uchel â be' gefais i!

"Roeddwn wedi rhoi cais i Brifysgolion Caerdydd, Lancaster, Lerpwl a Manceinion. Cefais fy nerbyn i bob un o'r rhain ond cefais gynnig cais diamod i Lancaster, felly rhoddais Lancaster fel fy newis cyntaf.

'Cadw cydbwysedd'

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn chwarae rygbi i dîm cyntaf y brifysgol.

"Roedd hi'n anodd cadw cydbwysedd rhwng fy mywyd academaidd a chwarae rygbi gan ein bod ni'n ymarfer tair gwaith yr wythnos a gyda gêm pob dydd Mercher.

"Mae'r cwrs yn drwm iawn gydag o leiaf pum awr pob diwrnod."

Dros gyfnod yr haf mae Nathan wedi sicrhau gwaith yn ardal beirianneg Pwerdy Ffestiniog, cyn iddo fynd nôl i'r brifysgol ym mis Medi.

"Mae gweithio yn fan hyn wedi bod yn brofiad anhygoel a hefyd yn fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith," meddai.

"Dwi ddim yn siŵr i ba adran beirianneg dwi'n bwriadu mynd iddo ar ôl graddio mewn tair blynedd.

"Mae'n gwrs sydd yn agor llawer o ddrysau gwahanol felly mae gen i ddigon o ddewis i'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Iona Stewart
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iona wedi cael sawl profiad gwerthfawr ar gynllun hyfforddiant gyda'r Â鶹ԼÅÄ yn Salford

Yn wahanol i'r arfer roedd Iona Stewart o Dregarth yn gwybod llwybr ei gyrfa fis cyn iddi dderbyn ei chanlyniadau Safon Uwch.

Ym mis Ebrill 2017, roedd Iona wedi gwneud sawl cais i sefydliadau cyfryngol am gynllun hyfforddiant. Roedd ganddi sawl profiad gwahanol o fynychu profiad gwaith yn ifanc gyda nifer o orsafoedd radio.

Roedd hi wedi gweithio gyda Radio Cymru, Juice FM a gorsaf annibynnol gŵyl Glastonbury, Worthy FM. Roedd hynny, meddai, yn brofiad allweddol wnaeth ei chynorthwyo i sicrhau lle ar gynllun hyfforddiant gyda'r Â鶹ԼÅÄ.

Bellach mae Iona yn byw yn Salford, Manceinion ac yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Rheoli Cynyrchiadau gyda rhaglen Blue Peter.

'Cymaint o hwyl'

"Roeddwn yn gwybod yn 14 nad oeddwn am fynd i'r brifysgol," meddai.

"Drwy weithio'n galed a chael cymaint o brofiadau, roeddwn yn gwybod bod siawns i mi gael fy nerbyn ar gynllun hyfforddi, roeddwn i wrth fy modd pan gefais gadarnhad gan y Â鶹ԼÅÄ."

Fe astudiodd Iona ei phynciau Safon Uwch mewn tri lleoliad gwahanol.

Roedd hi'n astudio Astudiaethau Cyfryngau yng Ngholeg Menai, Drama yn Ysgol Friars ym Mangor, a Thechnoleg Gwybodaeth yn Ysgol Tryfan.

Llwyddodd i gael cymhwyster gyda theilyngdod mewn Technoleg Gwybodaeth ac Astudiaethau Cyfryngau a gradd C mewn Drama.

Wrth edrych i'r dyfodol, dywedodd Iona: "Mae'r cynllun gyda'r Â鶹ԼÅÄ yn dod i ben ym mis Medi. Dwi wedi mwynhau a 'di cael cymaint o brofiadau gwahanol dwi'n awyddus iawn i geisio cael swydd barhaol gyda'r gorfforaeth.

"Hoffwn barhau i weithio mewn teledu plant hefyd gan ei fod cymaint o hwyl, fy uchelgais yw gweithio'n galed a gobeithio un diwrnod dod yn gynhyrchydd."

Disgrifiad o’r llun,

Uchafbwynt y flwyddyn i Math Roberts oedd cipio'r fedal gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd

Dros y blynyddoedd, mae Math Roberts o Gwm y Glo ger Caernarfon wedi bod yn wyneb cyfarwydd yn eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol.

Llynedd, llwyddodd i gael tair A* mewn Cerddoriaeth, Cymraeg a Mathemateg, a dwy A mewn Astudiaethau Theatr a Bioleg AS.

Mae bellach newydd orffen ei flwyddyn gyntaf yn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Lincoln, Prifysgol Rhydychen.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i Math. Yn ogystal â chwblhau ei flwyddyn gyntaf, llwyddodd hefyd i gipio'r Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanelwedd.

"Rhydychen oedd fy newis cyntaf, ar ôl bod yno am gyfweliad barodd bedwar diwrnod a byw fel myfyriwr, roeddwn wir wedi cael blas o'r ddinas," meddai.

"Roedd byw mewn dinas yn apelio'n fawr ataf. Roedd y newid o fod yn siarad Cymraeg pob dydd yn rhyfedd, ond mae 'na gymdeithas Gymraeg dda i'w gael yno.

"Mae Cymdeithas Dafydd ap Gwilym wedi mynd o nerth i nerth yn ddiweddar. Mae 'na Eisteddfod anffurfiol wedi ymddangos hefyd, sy'n lot o hwyl ac yn ffordd dda o gymdeithasu."

'Dinas hardd'

Doedd Math ddim yn sicr o'i le yn Rhydychen nes iddo ddychwelyd adref o'r ysgol ar fore'r canlyniadau. Doedd ddim am edrych ar wefan UCAS cyn casglu ei ganlyniadau rhag sbwylio'r sypreis, meddai.

"Mae sawl un yn gwybod cyn nôl y canlyniadau eu bod wedi'u derbyn neu beidio. Roeddwn yn nerfus iawn ar y bore," meddai.

"Roeddwn angen dwy A. Roeddwn eisoes wedi gwneud Lefel A Cerdd pan oeddwn ym Mlwyddyn 11, felly roedd y cyfan yn dibynnu ar weddill y canlyniadau.

"Roedd 'na ddigon o ddathlu'r diwrnod hwnnw wedyn efo fy ffrindiau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhydychen yn ddinas hardd i fyw ynddi, medd Math

Ar ôl cwblhau ei flwyddyn gyntaf mae Math yn falch ei fod wedi dewis mynd i Rydychen.

"Mae hi'n ddinas hardd i fyw ynddi, daeth hynny i'r amlwg fwy dwi'n credu yn ystod yr eira ym mis Chwefror," meddai.

"Mae 'na gymdeithas braf yno hefyd a cymaint o bethau allgyrsiol i'w wneud yno. Dwi'n aelod o gymdeithas ddrama amaturaidd yn ogystal â chymdeithas gerdd.

"Heb os uchafbwynt y flwyddyn i mi oedd ennill y fedal gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd. Dyna dwi yn ei fwynhau ei wneud ac mae cyfansoddi yn rhan bwysig o'r cwrs."

Bydd Cymru Fyw yng nghanol y dathliadau eto eleni gyda llif byw arbennig fydd yn dechrau am 8:30 fore Iau.