Â鶹ԼÅÄ

Eisteddfod Caerdydd: Edrych nôl ar yr wythnos a fu

  • Cyhoeddwyd
Y maes

Wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol ddirwyn i ben mae rhai o'r trefnwyr wedi bod yn edrych yn ôl ar sut wythnos y bu hi ym Mae Caerdydd.

Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis wrth Cymru Fyw: "Mae pethau wedi mynd yn dda, tywydd braf, ac mae pobl yn canmol ar y cyfan".

Cafodd ei sylwadau ei ategu gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Ashok Ahir wrth iddo ddweud: "Mae'r gwaith mae Elfed a swyddogion yr Eisteddfod wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf wedi trawsnewid yr eisteddfod.

"Doedd hwn ddim yn arbrawf eleni yng Nghaerdydd, roedd yn ddatblygiad."

Diwedd cyfnod

Mae Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod ers 25 mlynedd yn gadael ei swydd eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Elfed Roberts â staff yr Eisteddfod yn 1986 a'i benodi'n brif weithredwr yn 1993

Dywedodd wrth raglen Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru ei fod wedi cael "cyfnod hapus iawn" yn ei rôl a'i bod hi "wedi bod yn brofiad anhygoel ac yn fraint".

Ychwanegodd: "Mae hefyd angen nodi cyfraniad y staff. Mae staff y 'Steddfod wedi gweithio'n galed iawn, nid yn unig ar gyfer hon ond ar gyfer pob Eisteddfod arall."

Ond yn fwy na dim diolchodd i'r eisteddfodwyr.

Ei neges i Betsan Moses, a fydd yn ei olynu fel prif weithredwr oedd: "Caria 'mlaen, parha i ddatblygu, a pharha i wenu!"

Disgrifiad o’r llun,

'Un gwahaniaeth eleni oedd ein bod ni'n delio efo lot mwy o bobl', medd Elen Elis

'Treialu pethau newydd'

Roedd maes y brifwyl eleni yn wahanol iawn i'r arfer, ac yn ôl Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, roedd yn gyfle i arbrofi a threialu pethau newydd.

"Y gwahaniaeth eleni oedd ein bod ni'n delio efo lot mwy o bobl - dwi'n meddwl bod 'na 25 perchennog tir" meddai.

"'Da ni wedi treialu pethau newydd o ran cynnwys. Mae 'na dros 1,200 o ddigwyddiadau ar hyd y maes.

"Fe fuon ni'n treialu Encore - partneriaeth newydd gyda'r tÅ· cerdd i ddathlu cerddoriaeth glasurol a jazz ac yn y blaen - ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn, felly dwi'n awyddus iawn i ddatblygu hwnnw ymhellach yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Eisteddfod y brifddinas ddim yn un arferol

Denu cynulleidfa newydd

Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd oedd Ashok Ahir, sydd o'r farn bod gŵyl eleni wedi bod yn "llwyddiant ysgubol".

Yn ôl Mr Ahir roedd yno fwriad eleni i ddenu pobl newydd i "ffeindio mas mwy am yr Eisteddfod", yn enwedig y rhai hynny sydd yn ymweld â'r brifddinas.

"Roedd cynulleidfa arall wastad yn fy meddwl, rhai sydd wedi bod i'r eisteddfod ond hefyd pobl nad oedd ddim yn meddwl fod eisteddfod ar gyfer nhw - ond mae llwyth ohonyn nhw wedi dweud wrtha i eu bod wedi mwynhau'r eisteddfod yma."

Dywedodd fod y Brifwyl wedi ei thrawsnewid, ond bod "eisteddfod draddodiadol yng nghanol yr eisteddfod yma".

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

'Bythgofiadwy'

Mae Elfed Roberts yn falch iawn o'i Eisteddfod olaf fel Prif Weithredwr gan ddisgrifio'r ŵyl fel un "bythgofiadwy".

Dywedodd Mr Roberts fod ganddo ffydd yn y syniad o Eisteddfod yn y bae ers y dechrau, ac er bod adegau anodd wedi bod ar y ffordd, mae'r ŵyl "wedi gweithio hyd yn oed yn well nag oedden ni wedi'i ddisgwyl".

Ychwanegodd ei bod hi'n "braf gweld cymaint o bobl ddi-gymraeg yn mwynhau'r ŵyl, a neb â gair negyddol am yr iaith".

"Gobeithio bydd pobl yn llai ofnus o'r Gymraeg rŵan, ac yn barotach i gefnogi'r iaith."