Urddo aelodau newydd i'r Orsedd yn Eisteddfod Caerdydd

Mae aelodau newydd wedi cael eu hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd.

Yn eu plith roedd y canwr Geraint Jarman, Llywydd y Cynulliad Elin Jones, a'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Jamie Roberts.

Ymhlith yr unigolion eraill oedd hefyd yn cael eu hurddo roedd y barnwr Eleri Rees, y newyddiadurwr Vaughan Roderick, y darlledwr John Hardy, a'r diddanwyr Mici Plwm ac Ifan Tregaron.

Cafodd y seremoni ddydd Gwener ei symud i Faes B yn adeilad Profiad Doctor Who yn y Bae oherwydd y tywydd.

Mae'r anrhydeddau'n cael eu cyflwyno'n flynyddol er mwyn cydnabod unigolion ym mhob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg a'u cymunedau lleol.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Michael Lloyd Jones ei urddo dan enw gorseddol sy'n dipyn mwy cyfarwydd i gynulleidfaoedd - 'Mici Plwm'

Yn ôl y drefn, mae'r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd - Y Wisg Las am eu gwasanaeth i'r genedl.

Mae'r Orsedd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd am eu cyfraniad i'r Celfyddydau.

Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael eu hurddo i'r Wisg Wen.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jamie Roberts ei fod wedi siarad gyda George North ddydd Iau am ei brofiad yntau o'r seremoni llynedd

'Braf bod 'nôl ym Maes B'

Wrth siarad yn dilyn y seremoni dywedodd Jamie Roberts ei fod yn brofiad "sbesial".

"Roedd hi'n grêt cael dysgu am bobl arbennig a be' maen nhw wedi 'neud dros yr iaith dros y degawdau diwethaf," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n "braf cael bod 'nôl ym Maes B", lle gafodd brofiadau "ffantastig" yn tyfu fyny.

Roedd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones hefyd wedi mwynhau'r seremoni gan ddisgrifio'r profiad fel un "hyfryd".

"Mae'r Steddfod yn bwysig iawn i mi, mae'n draddodiad Cymraeg ac mae'n hyfryd cael fy anrhydeddu yn bersonol, ond i weld pawb arall hefyd."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Eisteddfod wedi bod yn un "bendigedig" yn ôl Ms Jones

Dywedodd Mici Plwm ei fod yn "nerfus" ar ddechrau'r digwyddiad "ond wrth i'r seremoni fynd yn ei flaen roedd rhywun yn tyfu fewn i hwyl y peth ac yn ei fwynhau yn arw".

Nid Mici Plwm oedd yr unig un i fod â theimladau cymysg, gyda John Hardy yn dweud ei fod yn "brofiad braf" ond bod yr anrhydedd hefyd yn "anodd i'w dderbyn".

Ychwanegodd fod yr holl beth yn annisgwyl iawn a bod "diwylliant a fi ddim yn yr un frawddeg yn aml!"

Disgrifiad o'r llun, John Hardy yn cael dderbyn i'r wisg las

Dywedodd Geraint Jarman ei fod yn "teimlo'n wylaidd iawn" wrth dderbyn yr anrhydedd.

"Mae cael y seremoni yng Nghaerdydd yn gwneud hi'n fwy arbennig gan mai dyma yw fy mhatch i fel petai, ac mae Caerdydd yn bwysig iawn i mi," meddai.

"Uchafbwynt y Steddfod i mi yw gweld yr ifanc a'r brwdfrydedd sydd ganddyn nhw tuag at y Gymraeg."