Galw am ddilyn cyfraith addysg Catalaneg yng Nghymru

Mae angen i Gymru fabwysiadu'r un statud addysg a sydd gan Catalwnia, er mwyn symud at addysg Gymraeg i bawb dros gyfnod o amser, yn ôl ymgyrchwyr.

Yn ystod digwyddiad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau, roedd ymgyrchwyr ar ran Cymdeithas yr Iaith yn galw am adolygu'r ddeddfwriaeth addysg Gymraeg bresennol.

Mae'r ddeddf fel y mae hi yn gofyn i awdurdodau lleol "wella safonau addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal" ond roedd y gymdeithas yn galw ar weinidogion i orfodi awdurdodau i fesur y galw am addysg Gymraeg yn ogystal.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn "cynyddu ein cefnogaeth i addysg cyfrwng Cymraeg" a'i fod "i fyny i awdurdodau lleol yng Nghymru... i gynllunio'r ddarpariaeth addysg yn eu hardaloedd".

Cyn y drafodaeth ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg y gymdeithas "nad oes modd i Gymru symud at bolisi Catalwnia dros nos, ond mae modd i'r ddeddf sy'n cael ei hadolygu ar hyn o bryd osod hynny fel nod mwy hirdymor".

Mae'r gyfraith yng Nghatalwnia yn peri mai'r Gatalaneg yw'r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol.

Bellach mae tua 80% o'r boblogaeth o 7.5 miliwn yng Nghatalwnia yn siarad Catalaneg.

Angen newid 'sylfaenol'

Yn ystod y drafodaeth ar y maes, dywedodd Aled Roberts fod angen i rywbeth "sylfaenol" newid yn y ffordd mae cynghorau yn gweithio.

Yn ôl Mr Roberts, doedd dim un o'r cynlluniau addysg yr oedd o wedi eu hadolygu yn "ddigon cryf".

Ychwanegodd Mr Schiavone mai newid y cynllun addysg yw'r "brif ffordd" o gyrraedd miliwn o siaradwyr.

"Mae gwneud y Gymraeg yn norm cyfrwng addysg ein gwlad yn bosib o fewn yr ychydig ddegawdau nesaf."