Â鶹ԼÅÄ

Manon Steffan Ros yn ennill y Fedal Ryddiaith

  • Cyhoeddwyd
manon

Manon Steffan Ros sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Roedd na 14 o ymgeiswyr yn y gystadleuaeth, a'r testun eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Ynni'. Y beirniaid oedd Sonia Edwards, Menna Baines a Manon Rhys.

Ganwyd a magwyd Manon Steffan Ros yn Rhiwlas, Dyffryn Ogwen, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Rhiwlas ac Ysgol Dyffryn Ogwen. Bu'n gweithio fel actores gyda chwmnïau theatr Y Frân Wen a Bara Caws am rai blynyddoedd. Bellach mae'n ddramodydd, yn sgriptwraig, ac yn diwtor ysgrifennu creadigol.

Mae hi'n yn byw yn Nhywyn, Bro Dysynni, gyda'i meibion, Efan a Ger.

Cyflwynwyd y Fedal a'r wobr ariannol o £750 gan Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd.

Teimlad 'arallfydol'

Yn dilyn y seremoni, dywedodd Manon Steffan Ros wrth Cymru Fyw fod ennill y fedal yn brofiad "anhygoel".

"O'n i'm yn teimlo'n nerfus o gwbl, ond wedyn unwaith nes i godi ar fy nhraed, nes i ddifaru gwisgo high heels - o'n i'n crynu i gyd. Mae'n deimlad mor od, arallfydol, fatha breuddwyd."

Ac roedd yn brofiad gwahanol, meddai, i ennill y Fedal Ddrama yn y brifwyl rai blynyddoedd yn ôl: "Pan nes i ennill y fedal ddrama, roedd o'n digwydd yn Theatr y Maes ac roedd o'n beth lot llai rhywsut.

"Mae'r Fedal Ddrama wedi ennill ei phlwy bellach a lot mwy o ffys, ond mae'n wahanol iawn."

Ynni oedd testun y gystadleuaeth, a phryderon personol Manon am ynni niwclear oedd symbyliad Llyfr Glas Nebo, meddai.

"Mae'n ôl-apocolyptaidd mewn ffordd. Beth sy'n digwydd pan mae cymdeithas yn chwalu ar ôl damwain Wylfa, a sut mae rhywun yn goroesi. Ro'n i'n teimlo'r angen i sgwennu amdano fo a sut basa pobl go iawn yn ymdopi efo'r problemau."

Mae Manon wrthi'n ysgrifennu sioe ddrama i'r Fran Wen ar gyfer plant, ac mae gan yr awdures gynhyrchiol nofel arall ar ei hanner.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sonia Edwards ei bod wedi ei dal yng ngwe dryloyw, fregus o'r dechrau i ddiwedd y gyfrol

Wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Sonia Edwards, enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd: "Hoffwn ddiolch i awduron y cyfansoddiadau a ddaeth i law am ymddiried eu gwaith ynom. Yng ngeiriau Manon, 'mae cyflawni tasg fel hon yn gofyn am ymroddiad, stamina a dyfalbarhad.' A rhaid cytuno hefyd â Menna nad ydi'r testun 'Ynni' chwaith mo'r hawsaf i ymateb iddo'n greadigol.

Wrth sôn am y gyfrol fuddugol, 'Llyfr Glas Nebo' gan Aleloia, dywedodd: "Weithiau, mewn ras fawr nodedig, mae yna geffyl diarth yn ymddangos o nunlle ac yn pasio pawb o'r ochr allan. Mae o'n ei osod ei hun ar y blaen ac yn aros yno hyd y diwedd, tra bod y gweddill yn mesur eu camau tu ôl iddo. Mae profi cyffro fel hyn yn peri i ias eich cerdded.

"Daeth gwaith Aleloia o ganol y pentwr cyfansoddiadau a'i osod ei hun ar y blaen. Fedrwn i ddim rhoi'r gorau i ddarllen y nofel hon ac es i drwyddi ar un eisteddiad. A doeddwn i ddim isio iddi orffen. Ond erbyn meddwl, doedd hynny ddim yn ormod o loes, oherwydd mi arhosodd hefo fi'n hir. Dyna'r argraff a gafodd ar fy nghyd-feirniaid yn ogystal".

"Cawsom ein dal yng ngwe dryloyw, fregus Aleloia o'r dechrau i'r diwedd a thu hwnt. A dyna gamp gwir lenor. Mae'r darlun a gawn o ran o ogledd Cymru yn sgil ffrwydriad niwclear trwy lygaid bachgen a'i fam yn ysgubol. Nid oherwydd y wybodaeth wyddonol a gawn.

"Nid oherwydd fod yma iaith aruchel. Ond oherwydd fod yma anwyldeb a thynerwch a realiti noeth a cholled a dioddefaint mewn iaith sy'n perthyn i ni i gyd. Ac oherwydd fod yr awdur hwn yn llenor wrth reddf.

'Perl'

Ychwanegodd Sonia Edwards: "Dywed Menna Baines fod yma 'ysgrifennwr greddfol, sicr ei gyffyrddiad.' Ac meddai Manon Rhys: 'Gafaelodd y nofel hon ynof o'r frawddeg gyntaf.' Dwi wedi sôn heddiw am grynhoi.

"Tasai rhaid crynhoi'r feirniadaeth ar y gwaith hwn i un gair mi ddywedwn i: perl.

"Mae Aleloia bellach yn swnio'n debyg iawn i 'haleliwia'! Ewch ar garlam i'w anrhydeddu â Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a rhowch iddo bob clod a berthyn iddi."

Enillodd Manon Steffan Ros y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2005 a 2006, ac mae hi wedi ysgrifennu amryw o nofelau. Enillodd Wobr Tir na n-Og am lenyddiaeth i blant dair gwaith.

Mae'n ysgrifennu colofn wythnosol o lên micro yng nghylchgrawn Golwg, ac eleni, bu'n gweithio fel awdur preswyl yng Nghastell Penrhyn.