Geraint Lloyd Owen yn ymddiheuro am sylwadau y Coroni

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall

Mae'r Archdderwydd, Geraint Llifon, wedi ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn ystod Seremoni'r Coroni.

Catrin Dafydd enillodd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn y brif seremoni ddydd Llun, gyda'r archdderwydd yn arwain y dathliadau.

Wrth sôn am Catrin, dywedodd yr Archdderwydd: "Fasa hi ddim yn gallu gwneud dim byd heb y dynion 'da chi'n gweld, ynde". Pan wnaeth y gynulleidfa riddfan mewn ymateb, ychwanegodd "Na, dwi'n deud y gwir!"

Mewn datganiad, dywedodd Gorsedd y Beirdd fod Mr Lloyd Owen "yn dymuno ymddiheuro a phwysleisio nad oedd yr hyn a ddywedwyd yn adlewyrchiad cywir o'i farn bersonol, nac ychwaith o farn yr Orsedd na'r Eisteddfod ar fater cydraddoldeb".

Ychwanegodd: "Mae'n gresynu bod hyn wedi tynnu oddi ar ddathlu llwyddiant enillydd penigamp y Goron eleni, ac ni fydd ef, yr Orsedd na'r Eisteddfod yn gwneud unrhyw ddatganiad pellach ar y mater."

Disgrifiad o'r fideo, Sylwadau'r Archdderwydd yn y Coroni

Wedi'r ymddiheuriad, dywedodd enillydd y Goron, Catrin Dafydd: "Dwi wedi derbyn ymddiheuriad gan yr archdderwydd, a chael sgwrs annwyl ac ymddiheuriad diffuant ganddo fe ar y ffôn.

"Mae'n fater sydd wedi'i gloi, o'n safbwynt i."

'Ceisio'n rhy galed'

Ar raglen Taro'r Post ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018, Ashok Ahir, fod yr Archdderwydd yn ceisio'n rhy galed i dynnu coes, ac y dylai ei olynydd "fwrw ymlaen gyda'r gwaith".

Dywedodd Mr Ahir nad swydd yr Orsedd oedd gwneud sylwadau gwleidyddol, ond cyflwyno gwobrau ar ran pobl Cymru, ac y dylen nhw fod yn ofalus ynglŷn â cheisio "ychwanegu at" y seremonïau.

Fodd bynnag, dywedodd nad oedd y sylwadau wedi tarfu ar y diwrnod, gan ddweud bod sefyll ar y llwyfan yn clywed enw Catrin Dafydd yn cael ei gyhoeddi yn llawer iawn mwy o beth na sylwadau'r Archdderwydd.