Fy ngharafán i: Angharad Mair

Ydych chi'n mynd â'r garafán i'r Eisteddfod yr wythnos nesa'? Mae'r ddarlledwraig Angharad Mair, sy'n garafaniwr Eisteddfodol brwd, wedi pacio'n barod i anelu am Gaerdydd.

Dyma ambell i air o gyngor ar beth i bacio a sut i wneud y mwya' o wythnos yn y Brifwyl ar y maes carafanau...

Rydyn ni wedi cael carafán newydd eleni. Mae pob carafán rydyn ni wedi ei chael yn adlewyrchu cyfnod newydd mewn bywyd...

Erbyn hyn mae Tanwen ac Efa yn 18 ac 16 oed, ond pan oedd y merched yn fach, roedd yna ddau wely bync yng nghefn y garafán a fi a Joni y gŵr yn cysgu yn y blaen.

Yna wrth i'r merched fynd yn hŷn roedd yna ddau wely plentyn. Roedden ni'n gallu cau'r drws a doedd sŵn y partïon ddim yn dihuno'r plant.

Erbyn hyn, rydyn ni wedi cyrraedd cyfnod sy'n eitha' anodd i fi gyda'r merched wedi tyfu fyny, felly gwely dwbwl sydd yn y cefn wedi ei osod yn barod, a'r merched sy'n cysgu ar welyau ym mlaen y garafán - rhag ein distyrbo ni ar ôl iddyn nhw ddod nôl yn hwyr o'r gigs!

Un tip mawr gen i wrth bacio'r garafán ar gyfer yr Eisteddfod yw i fynd â blancedi fleece.

Maen nhw'n grêt i roi ar y gwely os mae'n oer, hefyd i wisgo fel blanced drostoch chi yn y nos os ydych chi'n eistedd allan yn yr adlen neu'n cael barbeciw tu fas gyda ffrindiau. Maen nhw'n rhad ac yn lliwgar.

Rydw i'n hoffi rhoi goleuadau lliwgar a lanterni solar tu fas, maen nhw'n edrych yn bert ond hefyd er mwyn dangos lle mae'r garafán yn y tywyllwch.

Mae aros yn y garafán adeg y Steddfod yn rhywbeth cymdeithasol iawn i fi. Er mod i'n byw tua chwarter awr o'r maes eleni, dwi'n dal yn mynd â'r garafán. Mae bob amser criw mawr yn yr adlen neu yn y garafán gyda'n gilydd.

Dyna beth yw Steddfod i fi, bod gyda ffrindiau. Mae'n gyfle i fi a chriw coleg gael aduniad hefyd.

Mae'n teimlo'n gwmws yr un peth â mynd i 'stafelloedd ein gilydd pan o'n ni'n y coleg, er bod dros 30 mlynedd wedi mynd, mae'n teimlo fel ddoe.

Os oes bore rhydd yn ystod yr wythnos, mae cael coffi a chloncan yn y garafán yn hyfryd - mae digon o le yma i ddal lan â hen ffrindiau.

Fy nghyngor i wrth bacio dillad ar gyfer wythnos Steddfod yw i bacio popeth at bob tywydd.

Lot o ddillad lliwgar, a lot o layers: fest, crys, siwmper, siaced, cot law a wellies... ac wrth gwrs pyjamas. Steddfod yw'r unig le mae pawb yn gweld ei gilydd mewn pyjamas!

Mae angen pob math o 'sgidiau hefyd, i fi, rhai ar gyfer gwaith a rhai mwy ymarferol.

Does dim angen llond oergell o fwyd arnoch chi wythnos Steddfod. Ychydig bach o gaws a gwin, olives a ±è²¹³Ùé i fwynhau yn y nos. Hefyd llaeth a sudd oren ar gyfer y bore wedyn.

Dydy'r ffwrn yma erioed wedi cael ei defnyddio! Yr unig goginio sy'n digwydd wythnos y Steddfod yw ambell i farbeciw os mae'r tywydd yn braf.

Dwi'n lico addurno'r garafán gyda goleuadau lliwgar, bunting a blancedi lliwgar, a dyma lle dwi a fy ngŵr Joni yn cwympo mas.

Dwi'n eu gosod nhw a mae e'n eu tynnu nhw lawr! Mae e'n meddwl mod i'n rhoi gormod o bethau lan, a dwi'n eu hoffi nhw - ond mae'n rhaid cael cyfaddawd.

Mae croeso am baned neu brosecco yma.

Mae'r teledu yn bwysig iawn yn y garafán, yn enwedig yn ystod wythnos y Steddfod i gael gwylio rhaglen yr uchafbwyntiau yn y nos.

Mae pawb yn brysur iawn yn ystod y dydd, ond rhyw ben bob nos mae pawb wedi dod nôl i'r garafán ar ôl gwaith neu gyngerdd, ac fe wnawn ni eistedd yn gwylio'r Steddfod.

Hefyd o ddiddordeb: