Geraint Thomas ar drothwy ennill y Tour de France

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gydag un cymal yn weddill mae Geraint Thomas ar drothwy ennill y Tour de France.

Llwyddodd Thomas i gadw'r crys melyn ar ddiwedd y cymal gan ddal 'mlaen i'w fantais dros Tom Dumoulin yn yr ail safle.

Tom Dumoulin enillodd y cymal, gyda Chris Froome yn ail, ond doedd dim newid ar frig y dosbarthiad cyffredinol wrth i Thomas orffen munud a 51 eiliad yn glir.

Fe fydd y cymal olaf un ym Mharis ddydd Sul, ond yn ôl traddodiad, fydd neb yn herio'r cystadleuydd sydd yn y crys melyn ar ôl cymal 20.

Dumoulin sy'n ail yn y dosbarthiad cyffredinol, gyda Froome yn llwyddo i gipio'r trydydd safle.

Disgrifiad o'r fideo, Faint o gyflawniad ydy ennill y Tour de France?

Yn erbyn y cloc

Ras 31 cilomedr yn erbyn y cloc oedd cymal 20 - rhwng Saint-Pée-sur-Nivelle ac Espelette.

Roedd pob un o'r 145 o seiclwyr oedd yn weddill yn cystadlu heddiw, gyda'r person sy'n olaf yn dechrau yn gyntaf - felly Thomas a Dumoulin oedd y ddau olaf i ddechrau.

Dumoulin, o'r Iseldiroedd, yw pencampwr y byd yn erbyn y cloc a fe oedd y ffefryn ar ddechrau'r cymal.

Mae Thomas hefyd yn bencampwr Prydain yn erbyn y cloc, ac fe ddangosodd ei brofiad wrth orffen mewn amser o 41 munud a saith eiliad.

Dumoulin oedd yn gyntaf gydag amser o 40 munud 52 eiliad, ond ni ddaeth yn agos ar wyrdroi mantais y Cymro.

Cafwyd diweddglo cyffrous i'r cymal wrth i Froome orffen eiliad tu ôl i Dumoulin i sicrhau'r trydydd safle yn y dosbarthiad cyffredinol o flaen Primoz Roglic.

Ffynhonnell y llun, EPA

Ymateb Geraint Thomas

Wrth ymateb i'w fuddugoliaeth dywedodd Geraint Thomas ei fod yn "trio peidio crio" a bod ei lwyddiant yn "anghredadwy".

"Dwi wedi trio peidio meddwl am y peth, jyst cymryd e diwrnod wrth ddiwrnod," meddai wrth ITV.

"Dwi wedi ennill y Tour de France, dwi ddim yn gwybod beth i'w ddweud."

Ychwanegodd: "Allai adael i'r emosiynau lifo o'r diwedd. Y tro diwethaf i mi grio oedd fy mhriodas i - doeddwn i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd bryd hynny, o leia' dwi'n gwybod tro yma.

"Mae'n wallgof - y Tour de France! Allai ddim credu'r peth."

Canlyniadau'r dosbarthiad cyffredinol

1. Geraint Thomas - 80 awr 30 munud a 37 eiliad

2. Tom Dumoulin - +1'51"

3. Chris Froome - +2'24"

4. Primoz Roglic +3'22"

5. Steven Kruijswijk +6'08"