Llwyddiant Geraint Thomas yn hybu beicio yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwerthiant beiciau wedi cynyddu yn dilyn llwyddiant Geraint Thomas yn y Tour de France, yn ôl perchennog siop.

Ras yn erbyn y cloc yw'r unig beth sydd yn sefyll rhwng Thomas a buddugoliaeth yn ras feicio fwya'r byd.

Dywedodd Damian Harris, perchennog siop feiciau yng Nghaerdydd, fod yna gynnydd amlwg wedi bod mewn gwerthiant.

Mae llwyddiant Thomas yn y gystadleuaeth wedi arwain at "gyffro gwirioneddol" yn ôl Beicio Cymru.

Disgrifiad o'r fideo, Llwyddiant Geraint Thomas yn hybu beicio yng Nghymru

Mae siop Mr Harris, Damian Harris Cycles, yn agos i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd lle bu Thomas a sêr eraill y byd chwaraeon - Gareth Bale a Sam Warburton - yn ddisgyblion.

"Mae hi wedi bod yn anhygoel, mae gwerthiant beiciau ffordd wedi mynd trwy'r to yn yr wythnosau diwethaf, gyda mwy a mwy o bobl yn dod mewn i wneud ymholiadau," meddai.

"Rydw i'n eithaf siŵr fod hyn i gyd yn sgil llwyddiant Mr Thomas."

Busnes arall sydd wedi elwa o'r datblygiadau diweddar yw'r Bike Shed ym Mhontcanna - cartref Thomas.

Dywedodd Hopcyn Matthews, sy'n gweithio yn y siop, fod pobl yn dod i mewn yn aml "nid yn unig i brynu beic, ond poteli bach neu crysau melyn Geraint Thomas".

Ychwanegodd Mr Matthews fod twf pendant wedi bod yn y nifer o bobl sy'n ymweld â'r siop.

Ysbrydoliaeth

Yn ôl Beicio Cymru mae poblogrwydd y gamp ar gynnydd, gyda'r niferoedd sy'n ymuno â chlybiau ar hyd y wlad ar ei fyny.

Dywedodd y mudiad eu bod nhw wedi cofnodi hyd at 7,000 o aelodau eleni - y ffigwr uchaf erioed.

Mae Anne Adams-King, Prif Weithredwr Beicio Cymru, yn credu fod plant ar hyd Cymru yn cael eu hysbrydoli gan gampau Thomas ac yn ymuno a'u clybiau lleol.

"Mae yna gyffro gwirioneddol ar hyd y gymuned seiclo yng Nghymru, ac mae pawb yn dangos eu cefnogaeth i Geraint."