Titw Tomos Las, Hogia'r Wyddfa a Geraint Thomas

Disgrifiad o'r fideo, Fideo: Arwel a Myrddin yn dychwelyd i'r stiwdio i recordio fersiwn arbennig o hen glasur

Roedd dydd Mercher yn ddiwrnod allweddol i Geraint Thomas wrth i'r seiclwr ddal ei afael ar y crys melyn yn y Tour de France - ac ymestyn ei fantais yn y broses.

Mae'r gŵr o Gaerdydd yn arwain ras seiclo mwyaf adnabyddus y byd, ac mae ei lwyddiant wedi ysbrydoli'r genedl.

Ond beth sy'n cysylltu Hogia'r Wyddfa a Geraint Thomas?

Diolch i raglen Aled Hughes ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, mae Hogia'r Wyddfa - ynghyd â Band Pres Llareggub a Siddi - wedi ail recordio un o'u caneuon enwocaf, Titw Tomos Las, mewn teyrnged i gampau'r Cymro yn Ffrainc.

Dywedodd Arwel Jones, o Hogia'r Wyddfa: "Fe gyfansoddwyd y gân yn niwedd y 60au yn Ysgol Dolbadaran, Llanberis.

"Y diweddar Eirlys Pierce gyfansoddodd yr alaw i eiriau T. Llew Jones. Fel rhan o addysg y plant gychwynodd hi, ond erbyn heddiw mae'n canu clodydd Geraint Thomas."

Fel mae Arwel yn ei gydnabod, cefnogwyr Geraint sydd wedi cychwyn yr arferiad [ os nad ydy'r fideo yn ymddangos yn syth]:

I osgoi neges Facebook

Mae’n flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Erbyn hyn, mae'n debyg bod Geraint ei hun yn hoff iawn ohoni ac mae wedi dod yn ychydig o anthem ar y Tour iddo.

Tybed os welwn ni'r gân yn cyrraedd rhif un yn y siartiau os fydd Geraint yn fuddugol?

  • Mae modd edrych ar gymal 17 y Tour de France yn fyw ar ac ar Facebook Live ar dudalen am 14:00 ddydd Mercher.