Geraint Thomas yn parhau yn y crys melyn

Ffynhonnell y llun, Le Tour de France/Twitter

Yn dilyn diwrnod o orffwys ddydd Llun, mae Geraint Thomas yn parhau i ddal ei afael ar y crys melyn wedi cymal 16 y Tour de France.

Mae'r Cymro yn arwain ac yn parhau un munud a 39 eiliad dros ei gyd-aelod o dîm Sky, Chris Froome.

Croesodd Thomas y llinell derfyn naw munud ar ôl enillydd y cymal, y Ffrancwr Julian Alaphilippe o dîm Quick Step.

Ond roedd hi'n gymal arall lle nad oedd lle Thomas ar y blaen wedi dod dan fygythiad.

Dechrau dramatig

Bu'n rhaid i lond llaw o seiclwyr, Thomas a Froome yn eu plith, dderbyn triniaeth wedi iddynt gael eu heffeithio gan chwistrellydd gafodd ei ddefnyddio gan yr heddlu i rwystro protest gan ffermwyr.

Roedd y ffermwyr wedi gosod gwair yn llwybr y ras 29km i mewn i'r cymal 218km o hyd, nepell o Carcassonne.

Cafodd y ras ei stopio am gyfnod o 15 munud wrth i'r seiclwyr a gafodd eu heffeithio dderbyn triniaeth a golchi eu llygaid.