Â鶹ԼÅÄ

Brexit: Rhybudd am sioc 'seismig' oni bai fod cytundeb

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hybu Cig Cymru yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn hynod niweidiol

Wrth i'r Sioe Amaethyddol Frenhinol ddechrau yn Llanelwedd mae Hybu Cig Cymru yn rhybuddio y byddai Brexit heb gytundeb yn "gyflafan" i'r diwydiant.

Yn ôl Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Kevin Roberts, byddai Brexit heb gytundeb "yn agor y drws i dollau a fyddai'n achosi niwed anferth i allforion cig oen Cymru i Ewrop".

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths wedi dweud y bydd y sioe eleni yn un o'r "digwyddiadau pwysicaf" ers blynyddoedd, yn y sioe olaf cyn yn gadael yr UE.

Mae disgwyl i bump aelod o Lywodraeth y DU ymweld â'r sioe yn ystod yr wythnos - gan gynnwys Ysgrifennydd DEFRA, Michael Gove.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd sioe eleni yn bwysig am mai hon fydd yr olaf cyn Brexit

Dywedodd Lesley Griffiths y bydd hi'n gofyn, yn ystod ei chyfarfod â Mr Gove, faint o gyllid fydd yn cael ei neilltuo i gefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru yn derbyn cymorthdaliadau o £300m y flwyddyn fel rhan o Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddau gynllun newydd fydd yn ariannu'r sector amaethyddol ar ôl Brexit.

Bydd cyllid ar gael yn y dyfodol i hyrwyddo "gwydnwch economaidd" a chynorthwyo ffermwyr i ddarparu "nwyddau cyhoeddus".

Fe fydd y cymorthdaliadau presennol, sy'n cael eu talu'n uniongyrchol i ffermydd ac yn seiliedig ar faint o dir sydd ganddyn nhw, yn dod i ben.

Yn ôl Ms Griffiths, mae'r cynlluniau newydd yn "gyfle i greu system newydd unigryw Gymreig sy'n gweithio er lles ffermwyr Cymru.

"Mae'r ffordd yr ydym yn rheoli ein tir yn bwysig yn enwedig os ydym yn mynd i gynhyrchu canlyniadau o bwys i bawb yng Nghymru.

"Dyw'r system CAP presennol ddim yn ein caniatáu i gael y canlyniadau hynny ac nid yw wedi'i chynllunio i ystyried gwerth llawn y tir."

Mae'r newidiadau i fod i ddod i rym o 2022 ymlaen ond mae Ms Griffiths yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU "gadarnhau ar frys" y bydd Cymru yn parhau i gael ei chyfran hi o'r cyllid.

'Sioc sydyn, seismig'

Mae Mr Roberts yn rhybuddio y byddai Brexit heb gytundeb yn "gyflafan" i'r diwydiant cig coch yng Nghymru.

Mewn brecwast fore Llun dywedodd Mr Roberts: "Rydym wedi rhybuddio'n gyson am beryglon Brexit caled neu anhrefnus.

"Byddai'n rhoi sioc sydyn, seismig i'r diwydiant cig coch.

"Byddai tollau ar unrhyw lefel yn rhwystr i fasnach - dyma fyddai'r senario waethaf.

"I fod yn hollol ddi-flewyn ar dafod, yn yr achos hynny, ni fyddai allforio i Ewrop yn bosib."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cystadlu yn y Sioe Fawr yn dechrau ddydd Llun

Ychwanegodd Mr Roberts fod wyth mis i fynd a bod y diwydiant yn dal yn ansicr am y canlyniad.

"Un peth sy'n sicr, yw fod y sector angen masnachu'n rhydd a theg," meddai.

Yr UE yw'r brif farchnad ar gyfer allforio cynnyrch amaethyddol o Gymru, ac mae'n derbyn dros 90% o allforion cig coch.

Mae papur gwyn diweddar Llywodraeth y DU ar Brexit yn cynnig "creu Ardal Masnach Rydd newydd ar gyfer nwyddau amaeth-bwyd rhwng y DU a'r UE, gyda'r ddwy ochr yn rhannu "llyfr rheolau cyffredin".

Ond mae'r cynlluniau wedi cael eu cwestiynu gan drafodwr Brexit yr UE, Michel Barnier ac wedi achosi gweinidogion i ymddiswyddo o gabinet San Steffan.

'Effeithiau'r tywydd yn bwysig hefyd'

Neges Undeb Amaethwyr Cymru yn y sioe yw bod angen cynllunio y dyfodol yn ofalus a hynny dros gyfnod digon hir o amser.

Dywedodd y llywydd Glyn Roberts: "Mae Brexit yn ein gwahanu ni o'r UE, ac wrth gwrs, polisïau Llywodraeth Cymru yw'r llong yr ydym yn gobeithio y bydd yn cadw ein diwydiant a'n cymunedau gwledig i aros ar wyneb y dŵr, felly mae angen i ni gymryd digon o amser i adeiladu a phrofi'r llong honno i sicrhau ei fod yn ddiogel ar y môr ac nid yn llawn tyllau."

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud hefyd y dylai effeithiau presennol y tywydd ar ddiwydiant amaethyddol Cymru fod yn ffocws allweddol i lywodraethau, a ddim yn cael eu hanghofio ynghanol dadleuon pwysig eraill sy'n ymwneud a Brexit a pholisïau gwledig y dyfodol.