Dmitri Hrapov, y siaradwr Cymraeg o Moscow
- Cyhoeddwyd
Er na chafodd Cymru fynd i Rwsia i gystadlu yng Nghwpan y Byd 2018, mae'r iaith Gymraeg yn fyw mewn cornel o Moscow lle mae'r rhaglennydd cyfrifiaduron Dmitri Hrapov yn byw.
Efallai i chi ei glywed yn trafod llwyddiant ei wlad yng Nghwpan y Byd, yn Gymraeg, ar raglen Ar y Marc, Radio Cymru.
Bu Cymru Fyw yn ei holi pam iddo benderfynu dysgu Cymraeg a sut mae'n parhau i ymarfer?
Dechrau dysgu ar y rhyngrwyd
Roeddwn i eisiau dysgu Cymraeg yn Moscow, felly ar y rhyngrwyd nes i ddechrau pethau. Nes i wneud cwrs a defnyddio adnoddau ar-lein, ond yn ddiweddar dwi yn cael fy Nghymraeg y rhan fwyaf o'r Â鶹ԼÅÄ.
Mi wnes i gwrs Cymraeg ym Moscow, a hefyd treulio amser yn dysgu ar gwrs yn Nant Gwrtheyrn.
Dwi'n cael cyfleoedd i ymarfer gan fod dipyn o Gymry yma yn Moscow, efallai bod hynny'n anodd i bobl gredu.
Pam dysgu Cymraeg?
Nes i ddechrau dysgu yn wreiddiol oherwydd chwedlau Brenin Arthur a straeon J.R.R. Tolkien - dyna a wnaeth fy sbarduno i ddechrau.
Ond ers i mi ddechrau dysgu dwi wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl wych, mor ddiddorol, a dwi'n falch fy mod yn cael ymarfer gyda nhw.
Pan dwi'n cael cyfle, dwi'n gwylio rhaglenni teledu Cymraeg a gwrando ar y radio ar-lein. Ond yn anffodus does dim gymaint o amser gen i bellach.
Dwi hefyd yn hoffi darllen llyfrau Cymraeg pan ga' i gyfle - yn arbennig dau fath. Dwi'n hoffi llyfrau hanesyddol fel straeon Gruffudd ap Cynan, a hefyd Culhwch ac Olwen a'r Mabinogi.
Dwi hefyd yn hoffi nofelau ditectif, er enghraifft dwi newydd ddarllen y nofel Dan Amheuaeth.
Mae llenyddiaeth Cymraeg yn ardderchog felly dwi'n mwynhau dysgu pethau o lyfrau Cymraeg.
Cymdeithas Gymraeg
Roedd rhyw fath o gymdeithas yma yn y gorffennol, ond i fod yn onest bellach dwi ddim yn cael y cyfle i gwrdd mor aml dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf a dydi'r grŵp ei hun ddim yn cwrdd mor aml chwaith.
Ond dwi'n meddwl bod tua dau ddwsin yn parhau i gwrdd yn Moscow i ymarfer a thrafod y Gymraeg.
Anodd dysgu Cymraeg?
I ddweud y gwir, fe ellir dadlau bod iaith yn anodd i'w dysgu achos mae'n eithaf anodd i ddysgu gramadeg, ond wedyn mae'n rhaid i chi ddysgu 5,000 neu 10,000 o eiriau.
Efallai bod Cymraeg yn haws i fi ddysgu na iaith slafonic arall. Dwi'n dysgu Pwyleg hefyd, a phan dwi'n siarad Pwyleg mae'n anodd i fi beidio troi at Rwsieg - maen nhw'n rhy agos i'w gilydd.
Ond pan dwi'n siarad Cymraeg, dwi ond yn siarad Cymraeg, a dim gair o Rwsieg.
Hefyd o ddiddordeb: