Seremoni i groesawu Eisteddfod 2019 yng Nghonwy

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae gorymdaith i groesawu Eisteddfod Genedlaethol 2019 wedi'i chynnal yng Nghonwy ddydd Sadwrn.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor cyllid lleol, mae'r sir wedi codi bron i hanner ei tharged ariannol ar gyfer y brifwyl yn barod.

Dywedodd bod "ymateb gwych" a chefnogaeth y bobl leol wedi ychwanegu at fwrlwm arbennig yn yr ardal.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llanrwst rhwng 2-10 Awst 2019.

Roedd yr orymdaith, oydd yn cynnwys Gorsedd y Beirdd a thrigolion lleol, yn dechrau o Barc Bodlondeb am 14:00 ac yn cerdded drwy dref Conwy gan arwain at Seremoni'r Cyhoeddi yn Sgwâr Lancaster.

Bwriad yr orymdaith a'r seremoni yw cyflwyno bwrlwm yr Eisteddfod i drigolion yr ardal.

Yn dilyn yr orymdaith roedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Trystan Lewis, yn cyflwyno'r copi cyntaf o restr testunau 2019 i'r Archdderwydd.

Wedi hynny, mae'r gyfrol ar gael i'w phrynu mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar-lein.

Disgrifiad o'r llun, Mae Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn ail-ymweld â Llanrwst 30 mlynedd union ers iddi fod yno ddiwethaf yn 1989

Yn ôl Dylan Rhys Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mae cyffro mawr yn yr ardal eisoes, wrth i nifer o drigolion y sir weithio i godi arian tuag at yr Eisteddfod.

"Mae pobl Llanrwst yn edrych ymlaen at weld yr Eisteddfod yn yr ardal yma, a'r sir gyfan yn edrych ymlaen at weld yr Eisteddfod yn ymweld," meddai.

"Mae ymateb gwych wedi bod, sy'n braf iawn i weld."

'Y cam olaf fydd yr anoddaf!'

Mae tua 30 o bwyllgorau lleol wedi eu sefydlu ar hyd Sir Conwy i gasglu arian.

Mae digwyddiadau sydd wedi eu trefnu i godi arian wedi amrywio o deithiau cerdded i gyngherddau a digwyddiadau gwerthu cacennau.

Dywedodd Mr Jones: "O ran y targed lleol, dydyn ni ddim yn bell o hanner ffordd, ac mae pawb wedi tynnu at ei gilydd.

"Mae'n llygad ni ar y targed yna, ac o fewn hanner blwyddyn ni wedi gwneud yn rhyfeddol o dda.

"Ond dydyn ni ddim am laesu dwylo eto - y cam olaf fydd yr anoddaf!"