Â鶹ԼÅÄ

Technoleg yn y Gymraeg i ddeall sut beth yw dementia

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gobaith y dechnoleg yw agor llygaid pobl i wirionedd byw gyda dementia

Dryswch wrth golli goriadau, rhoi celfi yn y lle anghywir, neu anghofio enw rhywun - mae'n digwydd i bawb o bryd i'w gilydd, ond i rai sy'n byw â dementia mae'n brofiad dyddiol.

Rŵan am y tro cynta' erioed, mae 'na dechnoleg rithwir - neu virtual reality - ar gael yn y Gymraeg i helpu pobl ddeall sut beth ydy byw gyda'r cyflwr.

Mae tasgau syml fel gwneud paned yn gallu bod yn heriol, ond mae'r dechnoleg newydd yma'n gobeithio agor llygaid pobl i wirionedd byw â dementia.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, Arloesi Gwynedd Wledig a Chyngor Gwynedd, mae'r feddalwedd yn "torri tir newydd a chyffrous" yn ôl Meilys Heulfryn Smith o'r cyngor.

'Mamiaith'

"'Da ni ddim yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd tebyg o'i fath yng Nghymru," meddai Ms Smith.

"Beth sy'n wych hefyd ydy bod y dechnoleg yn ddwyieithog, yn Gymraeg a Saesneg, ac yn agor drysau i ddatblygu'r dechnoleg yma mewn unrhyw iaith mewn gwirionedd.

"Da chi'n rhan o'r profiad. 'Da chi'n gallu symud pethau o gwmpas o fewn y ffilm VR yma. Dwi'n meddwl, trwy hynny, bod o'n gwneud i chi deimlo eich bod chi yn 'sgidiau rhywun sydd â dementia.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dechnoleg yn rhoi'r defnyddiwr yn safle person sydd â dementia

Ychwanegodd Ms Smith: "Dwi'n meddwl bod o'n bwysig cael rhywbeth fel hyn yn y Gymraeg am sawl rheswm. Os ydan ni'n wynebu anawsterau mewn bywyd, mae gymaint brafiach gallu trafod nhw trwy eich mamiaith.

"Ond hefyd, yn drist iawn, mae pobl sydd yn byw â dementia yn mynd yn ôl mewn cyfnodau mewn hanes. Os ydy o'n gyfnod yn eu bywyd nhw lle mai dim ond y Gymraeg oedden nhw'n medru siarad a deall, yna mae gallu ymdrin â'r mater yn y Gymraeg yn hollbwysig."

'Mwy o ddealltwriaeth

Mae Jen Johnson yn gofalu am ei mam sydd â dementia ac mae hi'n credu bod y dechnoleg rithwir yn mynd i helpu nifer o ofalwyr fel hi.

"Dwi'n meddwl bod y syniad yn wych. Mae o'n agor llygaid pobl i sut mae o i fod efo dementia," meddai.

"Y dryswch a ballu, a dwi'n meddwl weithiau bod pobl ddim yn sylweddoli be' ydy'r salwch a sut mae'r person yna'n teimlo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jen Johnson yn gofalu am ei mam sydd â dementia

Ychwanegodd Ms Johnson: "Mae mam yn byw adre' efo ni a dwi'n gofalu amdani ers pedair blynedd, felly dwi'n gwybod dipyn am y salwch - sut mae hi'n teimlo a'r problemau mae hi'n wynebu bob dydd.

"Ond yn sicr i rywun sy' newydd ddechrau gofalu am rywun sydd efo dementia, dwi'n meddwl bod o'n ffordd ymlaen ac yn codi ymwybyddiaeth, cael bach mwy o ddealltwriaeth o ddementia."

Mae'r feddalwedd yn cael ei lansio yn Galeri Caernarfon nos Iau, 5 Gorffennaf, a bydd yr offer ar gael i'w arddangos i'r cyhoedd ac unrhyw grwpiau sydd â diddordeb.