Â鶹ԼÅÄ

Angen gweithwyr Ewropeaidd 'achos prinder staff iechyd'

  • Cyhoeddwyd
doctoriaidFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd angen cyflenwad o ddoctoriaid a nyrsys o'r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit oherwydd prinder staff ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ôl Conffederasiwn GIG Cymru.

Dywedodd y corff sy'n cynrychioli'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau y bydd "wastad angen" recriwtio staff o dramor, er gwaethaf ymdrechion i gynyddu'r niferoedd sy'n hyfforddi yn y DU.

Mae tua 2.5% o holl staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n dod o'r UE neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, .

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno cynllun mewnfudo yn dilyn Brexit "sy'n gweithio er lles Prydain gyfan".

'Prinder ym mhob arbenigedd'

Mae disgwyl i reolau newydd i fudwyr o'r Undeb Ewropeaidd ddisodli'r polisi presennol gan Frwsel sy'n caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng holl wledydd yr Undeb.

Bydd y llywodraeth yn cyhoeddi mwy o fanylion o fewn "y misoedd nesaf".

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething wedi galw am gysylltu'r polisi mewnfudo'n "agosach at swyddi fel bod modd recriwtio'r doctoriaid, nyrsys a staff iechyd a gofal eraill sydd eu hangen arnom".

Mae tua 30% o'r oddeutu 8,800 o ddoctoriaid sy'n gweithio yng Nghymru wedi eu hyfforddi dramor, tra bod 6% o'r cyfanswm .

Ffynhonnell y llun, PA

Dywedodd Dr Vanessa Young, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, fod pwysau arbennig mewn rhai meysydd fel gofal llygaid.

"Rydyn ni'n wynebu prinder staff ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru - ar draws pob arbenigedd," meddai.

"Mae'r gweithlu Ewropeaidd sydd gennym ni'n bwysig iawn i ni ac ry'n ni eisiau ei gadw a sicrhau bod modd cael cyflenwad o staff o'r UE wedi Brexit.

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i recriwtio pobl o'r EU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â chynyddu niferoedd hyfforddi yma, ond bydd hynny'n cymryd mwy o amser.

"Felly bydd bob tro angen recriwtio doctoriaid, nyrsys a staff iechyd o lefydd eraill."

Cynllun

Fis diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydden nhw'n llacio rheolau mewnfudo i ganiatáu i fwy o ddoctoriaid a nyrsys ddod o'r tu allan i'r UE i'r DU.

Fe wnaeth Dr Young groesawu'r penderfyniad i eithrio meddygon o du allan i'r UE o gyfyngiadau'r llywodraeth ar fewnfudo i weithwyr â sgiliau.

Galwodd hefyd ar i weinidogion yn San Steffan "sicrhau bod cyflenwad o weithwyr o safon uchel o'r Undeb Ewropeaidd yn parhau".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Ar ôl i ni adael yr UE bydd gennym gynllun mewnfudo sy'n gweithio er lles Prydain gyfan.

"Bydd y cynllun yma wedi ei seilio ar dystiolaeth. Mae'r llywodraeth wedi comisiynu cyngor gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fudo a byddwn yn parhau i ymgynghori gydag amryw o hapddalwyr."