Trafod effaith Brexit ar fusnesau gogledd Cymru

Ffynhonnell y llun, AFP Contributor/Getty Images

Bydd Airbus ac allforwyr blaenllaw eraill yn y gogledd yn cwrdd â Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi ddydd Llun i drafod dyfodol masnach ar ôl Brexit.

Ychydig dros wythnos yn ôl rhybuddiodd cwmni awyrennau Airbus y byddai'n rhaid iddynt ailystyried eu buddsoddiadau yn y DU petai y DU yn gadael marchnad sengl ac undeb dollau'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae dros 60% o'r allforion o Gymru, sy'n werth bron £10bn, yn mynd i wledydd yr UE ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod bron tair o bob pedair punt y mae busnesau o Gymru yn eu hennill drwy werthu dramor yn dibynnu ar hyn o bryd ar berthynas â phartneriaid yn yr UE.

Mae'r DU, drwy ei haelodaeth o Undeb Tollau'r UE, yn gallu masnachu â mwy na 70 o wledydd sydd â Chytundeb Masnach Rydd.

Yn ystod y cyfarfod mae disgwyl i arweinwyr busnesau sydd ymhlith rhai o brif allforwyr y Gogledd fynegi eu barn nhw am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â Brexit.

Yn ymuno ag Airbus bydd Deeside Cereals, Halen Môn, Plas Farm Foods, Qioptiq, Siemens Healthcare Diagnostics a Silverlining Furniture Group.

'Gwybodaeth o lygad y ffynnon'

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: "Wrth i'r DU ymadael â'r UE, byddwn ni'n gweld y newid mwyaf ers cenhedlaeth i'n statws masnachu rhyngwladol.

"Mae allforion o Gymru yn rhan allweddol o'n heconomi, ac yn darparu swyddi a buddsoddiad, a rhaid gofalu nad yw Brexit yn fygythiad i hynny.

"Mae dyletswydd ar Brif Weinidog y DU i wneud yn siŵr ein bod yn cael Brexit call a fydd yn caniatáu i fusnesau Cymru barhau i allforio i'r EU, ein marchnad fwyaf, heb unrhyw rwystrau, costau ychwanegol na threthi newydd."

Ychwanegodd Mr Skates: "Bydd y digwyddiad yn gyfle hefyd inni glywed o lygad y ffynnon a chael gwybod beth, ym marn y busnesau, yw'r cyfleoedd a allai ddeillio o Brexit.

"Byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu, ond yr hyn sydd ei angen arnon ni 'nawr, a hynny ar fyrder, yw eglurder oddi wrth Lywodraeth y DU am y math o Brexit y mae am ei gael.

"Dim ond hynny all roi sicrwydd i fusnesau a chaniatáu iddyn nhw gynllunio ar gyfer y dyfodol."