Â鶹ԼÅÄ

Ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog yn unig yng Nghaerdydd?

  • Cyhoeddwyd
Phil Bale

Mae cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd yn dweud y dylai'r awdurdod ystyried agor ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn unig yn y dyfodol.

Fe wnaeth y Cynghorydd Llafur, Phil Bale, yr alwad mewn araith ddydd Sul.

Mewn sgwrs oedd yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, awgrymodd y Cynghorydd Bale fod modd i'r awdurdod wneud llawer mwy i gyfrannu at y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod deddfwriaeth darparu addysg yn "fater cymhleth sy'n gorfod ystyried nifer o ofynion cymhleth cyfreithiol" ond nad oes "unrhyw amheuaeth" bod y cyngor eisiau "ehangu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r dewis i rieni".

'Angen ystyried yn ofalus'

"Mae angen i'r ddinas fod yn ddi-ofn mewn penderfyniadau ynghylch a ddylai ysgolion a adeiledir o'r newydd yng Nghaerdydd yn y dyfodol fod yn Saesneg neu'n gyfrwng Cymraeg," meddai'r Cynghorydd Bale.

"Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn datgan y bydd dewis iaith ysgolion newydd yn seiliedig ar gynnydd tebygol yn y boblogaeth yn y dyfodol, yn ogystal â thueddiadau hanesyddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

"Sut bynnag, ni fydd edrych i'r gorffennol yn helpu i wireddu gweledigaeth ein dinas ar gyfer y dyfodol.

"Os bydd Caerdydd o ddifrif ynghylch lleihau nifer sylweddol y disgyblion sy'n gadael ysgolion cyfrwng Saesneg Caerdydd heb fawr ddim sgiliau yn y Gymraeg, yna mae angen ystyried yn ofalus unwaith eto'r polisi o agor ond naill ai ysgolion dwyieithog neu ysgol cyfrwng Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Phil Bale y gall Cyngor Caerdydd wneud llawer mwy i gyfrannu at y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg

Galwodd hefyd ar y cyngor i sicrhau fod pob siop yn cynyddu ei defnydd o'r Gymraeg: "[Mae'r] Cyngor yn bwriadu cyflwyno Canllawiau Cynllunio Ategol diwygiedig ar gyfer Arwyddion a Blaen Siopau yn hwyrach eleni, gan nodi'n llawer cliriach beth yw disgwyliadau'r ddinas o ran arwyddion siopau dwyieithog.

"Ni all fod yn iawn fod cwmnïau Almaeneg fel Lidl ac Aldi wedi cofleidio ein hiaith yn eu siopau Cymreig eu hunain tra bod llawer o gwmnïau Cymreig neu Seisnig yn dal i fod heb wneud.

"Yng ngoleuni'r ansicrwydd presennol ynghylch sut bydd y sector preifat yn cydymffurfio â'r safonau iaith, mae'n iawn i'r Cyngor achub y blaen yng Nghaerdydd, lle y gall wneud hynny, a bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i gyflwyno'ch barn ar y newid hwn."

'Dim amheuaeth' gan y cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod deddfwriaeth darparu addysg yn "gorfod ystyried nifer o ofynion cymhleth cyfreithiol" a bod rhaid "ystyried gofynion penodol pob ardal".

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry nad oes "unrhyw amheuaeth" bod y cyngor eisiau "ehangu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r dewis i rieni".

"Ers 2012 mae'r cyngor wedi sefydlu un ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg, un ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ac wedi ehangu yn sylweddol mewn pedair ysgol gynradd Gymraeg ar draws y ddinas," meddai.

"Rydym ar hyn o bryd yn adeiladu tair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd sef Ysgol Hamadryad, Ysgol Glan Morfa ac Ysgol Glan Ceubal.

"Mae ein darpariaeth addysg Gymraeg hefyd yn cael ei ystyried yn y Cynllun Datblygu Lleol."

'Hwb mawr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cefnogi gweledigaeth Cyngor Caerdydd ar gyfer Caerdydd ddwyieithog.

"Yn unol â'r weledigaeth hon, yn gynharach eleni, cymeradwyodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor.

"Nod y cynllun yw ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach yn y brifddinas."

Cafodd ei sylwadau eu croesawu gan Mabli Jones ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd.

"Mae hyn yn hwb mawr i'n hymgyrch i agor 10 ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn y pedair blynedd nesaf, ac rydyn ni'n credu y dylai ysgolion newydd fod yn rhai cyfrwng Cymraeg yn unig," meddai.

"Rydyn ni wedi cwrdd â'r cyngor sawl gwaith yn ddiweddar i drafod materion addysg a chynllunio, ac mae Phil Bale yn hollol iawn i ddweud y dylai pob siop a busnes fod ag arwyddion Cymraeg.

"Mae'n agenda cyffrous."