Â鶹ԼÅÄ

Iolo Williams: Angen newid agwedd parciau cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Iolo Williams
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Iolo Williams, "mae'n hen bryd i'r Parciau Cenedlaethol drio'i gweld hi a gweithredu er mwyn gwyrdroi sefyllfa annerbyniol o golli natur o'r parciau."

Mae angen i barciau cenedlaethol Cymru a Lloegr newid eu hagwedd tuag at gadwraeth yn ôl is-lywydd elusen Campaign for National Parks, y naturiaethwr Iolo Williams.

Yn ôl adroddiad gan yr elusen, mae angen i barciau cenedlaethol a'r llywodraeth gymryd camau i daclo hela adar ysglyfaethus a chanolbwyntio ar y darlun ehangach i ail sefydlu'r broses ecolegol naturiol.

Mae nifer o rywogaethau ar hyd y parciau cenedlaethol megis y wiwer goch a'r gylfinir mewn trafferthion, er bod nifer o brosiectau yn ceisio eu gwarchod.

Yn ôl y naturiaethwr, Iolo Williams "dydy'r status quo ddim digon da".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi "ymrwymo i amddiffyn y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol ac i warchod y cyfoeth o fywyd gwyllt sydd ynddyn nhw".

Disgrifiad,

Tegryn Jones yw Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Penfro

Dywedodd Mr Williams: "Mae'n hen bryd i'r parciau cenedlaethol drio'i gweld hi a gweithredu er mwyn gwyrdroi sefyllfa annerbyniol o golli natur o'r parciau."

Ychwanegodd: "Ar hyd a lled cefn gwlad rydym yn wynebu dirywiad ecolegol sylweddol, ac mae rhaid i barciau cenedlaethol osod esiampl ac arwain y ffordd."

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y dylai'r parciau fod yn fwy uchelgeisiol, a newid eu ffyrdd o warchod a rheoli lleoliadau unigol ar gyfer rhai anifeiliaid arbennig.

Mae pwyslais hefyd y dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'r parciau i gynnig ffordd newydd o warchod byd natur.

Disgrifiad,

Cyfarwyddwr Cymdeithas Tirfeddianwyr Cymru ydy Rebecca Williams

Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw Tegryn Jones a dywedodd ar raglen y Post Cyntaf, Radio Cymru ei bod hi'n "anodd iawn anghytuno gyda Iolo Williams".

"Mae hwn yn broblem llawer mwy eang a dim yn cael ei gyfyngu i barciau cenedlaethol, ac mae mwy o waith yn cael ei wneud mewn parciau cenedlaethol na gweddill y wlad," meddai.

Yn ogystal â gwarchod natur, mae'r grŵp ymgyrchu hefyd yn dweud y dylai taliadau i ffermwyr yn y dyfodol ganolbwyntio mwy ar yr amgylchedd, a'i bod hi'n hanfodol i gynnal gwarchodaeth natur ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn y parciau ceneladethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol ac i warchod y cyfoeth o fywyd gwyllt sydd ynddyn nhw."