Â鶹ԼÅÄ

Lluniau: Llyfr y Flwyddyn 2018

  • Cyhoeddwyd

Mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Fawrth, cyhoeddwyd mai Blodau Cymru: Byd y Planhigion gan Goronwy Wynne gipiodd teitl Llyfr y Flwyddyn 2018.

Cafodd deg enillydd eu gwobrwyo yn y seremoni, sy'n dathlu llyfrau mewn tri chategori yn y Gymraeg a'r Saesneg - barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol greadigol.

Roedd y ffotograffydd Sioned Birchall yno ar ein rhan:

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Enillydd y brif wobr Gymraeg, Goronwy Wynne, yn mwynhau diod a sgwrs

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y noson ei chynnal yn y Tramshed yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol - ac roedd hi'n braf iawn!

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y DJ Gareth Potter yno eto eleni yn diddanu pobl gyda'i gerddoriaeth

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Y prifardd Gwion Hallam oedd yn cyflwyno'r noson

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Ifor ap Glyn, bardd cenedlaethol Cymru, ar leoliad gyda chriw ffilmio

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur Caryl Lewis, cyn-enillydd a beirniad ar y noson, yn edrych tua'r llwyfan

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Peredur Lynch, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg 360, am ei gyfrol farddoniaeth gyntaf, Caeth a Rhydd

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdures Crystal Jeans, enillydd y wobr Ffuglen Saesneg am ei llyfr Lightswitches Are My Kryptonite

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

"Dal yn ffrindiau?" Catrin Dafydd, enillydd yn y categori ffuglen Gymraeg am ei chyfrol Gwales... ar draul LlÅ·r Gwyn Lewis a'i lyfr Fabula

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Enillydd y Wales Arts Review People's Choice Prize oedd Tristan Hughes am ei nofel Hummingbird

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

"Mae anwylder y dweud yn cyfareddu" meddai Caryl Lewis, wrth gyhoeddi mai Hywel Griffiths a'i gyfrol Llif Coch Awst oedd yr enillydd yng nghategori'r gyfrol farddoniaeth Gymraeg

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Robert Minhinnick enillodd Llyfr Saesneg y Flwyddyn am ei gyfrol o farddoniaeth, Diary of the Last Man

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Goronwy Wynne yn mwynhau'r noson

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro M. Wynn Thomas oedd yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg am ei gyfrol All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Y beirniaid Caryl Lewis, Beti George ac Aneirin Karadog gyda Goronwy Wynne (ail o'r chwith)

O'r archif: