Cyhoeddi cynllun hybu'r Gymraeg mewn addysg yn Sir Gâr

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin amlinellu ei strategaeth 'cynlluniau addysg Gymraeg' ddydd Llun

Dywed Cyngor Sir Gaerfyrddin mai "sicrhau fod disgyblion yn fwy rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn diwedd ysgol gynradd a datblygu hynny mewn ysgolion uwchradd" yw nod strategaeth gafodd ei lansio ddydd Llun.

Wrth gyhoeddi 'Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg' dywed y cyngor ei fod yn dymuno i blant ddatblygu sgiliau newydd wrth ymdrin ag ieithoedd eraill - yn unol â gofynion y Cwricwlwm Addysg Newydd yng Nghymru.

Fis Mawrth dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cymeradwyo cynlluniau addysg Gymraeg 15 o gynghorau lleol, gyda chynllun Caerfyrddin yn eu plith.

Roedd hi'n statudol bod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer addysg gyfrwng Cymraeg rhwng 2017 a 2020.

Ond pan gafodd y cynlluniau eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2016 cafodd y cwbl eu gwrthod.

Y rheswm, meddai'r llywodraeth, oedd nad oedden nhw'n mynd yn ddigon pell tuag at ei nod i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg y llynedd fod yna "ddiffyg uchelgais" yn y cynlluniau gwreiddiol.

Ond wedi cyflwyno'r gwelliannau dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, bod y gwelliannau "wedi sicrhau sylfaen fwy cadarn i'r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, sy'n adlewyrchu'n well yr uchelgais a nodwyd yn y ddogfen Cymraeg 2050 a'r gydnabyddiaeth bod addysg yn gyfrwng pwysig i newid".

'Ymateb cadarnhaol'

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, sy'n aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Addysg a Gwasanaethau Plant: "Ry'n ni'n gyffrous bod ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn cael ei gyhoeddi.

"Mae'n gynllun uchelgeisiol a gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth eleni yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus statudol.

"Mae'n gynllun sy'n ein gosod fel sir ar y ffordd i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol, yn wir mae'n rhoi cyfle i bob disgybl fod yn ddwyieithog erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 [diwedd yr ysgol gynradd].

"Ry'n am gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Dywedodd hefyd y bydd y cyngor yn ymrwymo i hyfforddi a datblygu staff er mwyn cwrdd â'r gofynion: "Mae ymateb penaethiaid ysgolion ar draws y sir i gyd wedi bod yn gadarnhaol ac mae hynny yn bwysig iawn."