Â鶹ԼÅÄ

Arolwg yn datgelu honiadau pellach o ymosodiadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 247 o staff Cynulliad eu holi fel rhan o waith ymchwil Wales Live

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod angen ymchwilio i gwynion "cyfredol a hanesyddol", wedi i honiadau newydd o ymosodiadau rhywiol, aflonyddu rhywiol a bwlio ddod i'r amlwg.

Mae ymchwiliad gan raglen Â鶹ԼÅÄ Wales Live wedi canfod fod tri aelod staff sy'n gweithio i ACau wedi gwneud dau honiad o ymosodiadau rhyw yn erbyn staff Â鶹ԼÅÄ ac un yn erbyn Aelod Cynulliad.

Dywedodd chwech aelod staff eu bod wedi profi bwlio neu aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn dweud y byddan nhw'n trin yr honiadau "o ddifrif".

Dywedodd y gweinidog yn Llywodraeth Cymru, Julie James bod angen codi llais am achosion o ymddygiad amhriodol, a delio â nhw.

Holiadur

Cafodd yr honiadau anhysbys eu gwneud mewn ymateb i holiadur a gafodd ei anfon at 247 o staff cynorthwyol Aelodau Cynulliad, fel rhan o waith ymchwil gan Wales Live ym mis Ebrill.

Roedd yr holiadur yn gofyn cwestiynau am aflonyddu rhywiol a bwlio yn y Senedd ac mewn swyddfeydd etholaethol.

Fe gafwyd 30 ymateb i'r ymchwiliad.

Dywedodd tri a ymatebodd eu bod wedi dioddef ymosodiad rhyw yn y gweithle:

  • Dywedodd un fod person oedd yn gweithio i'r Â鶹ԼÅÄ wedi cyffwrdd yn amhriodol ynddo/ynddi

  • Dywedodd un arall fod aelod o staff y Â鶹ԼÅÄ wedi ymosod yn rhywiol arno/arni

  • Dywedodd un fod AC wedi ymosod yn rhywiol arno/arni

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie James, Arweinydd y TÅ· a'r Prif Chwip, ei bod hi'n bwysig codi llais am achosion o aflonyddu

Gan fod yr holiadur yn un anhysbys, doedd dim modd gwirio'r honiadau, a doedd y dystiolaeth ddim yn cynnwys unrhyw enwau, ond mae'r ymatebion wedi eu trin â pharch.

Fe wnaeth chwech aelod staff honiadau ychwanegol o ymddygiad amhriodol a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio neu aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

  • Dywedodd un fod newyddiadurwr i'r Â鶹ԼÅÄ wedi ymddwyn yn fygythiol tuag ato/ati.

  • Yn ôl un arall, roedd yna "awyrgylch wenwynig ofnadwy" ac y byddai adrodd honiadau wedi bod yn ddibwynt gyda'r "AC yn farnwr, yn rheithgor a dienyddiwr ac os nhw yw'r bwli does dim posib gwneud unrhyw beth".

  • Dywedodd un person fod rhywun wedi "gweiddi neu regi arnyn nhw" a'u bod wedi eu "bygwth neu eu brawychu".

Doedd yna ddim beirniadaeth am y modd y deliwyd â chwynion.

Ymatebion positif

Roedd ymatebion eraill yn fwy positif, gan ddweud fod yr awyrgylch yn y Cynulliad yn "gyfeillgar, agored ac yn lle sy'n rhoi boddhad ac yn llawer gwell na'r ddelwedd oedd wedi ei rhoi ar y cyfryngau."

Ddydd Mawrth, dywedodd y Llywydd Elin Jones.

Daeth arolwg arall o staff ac ACau gan Gomisiwn y Gynulliad - y corff sy'n rheoli'r Cynulliad - i'r casgliad fod 37 o bobl wedi profi achosion o ymddygiad amhriodol.

Dywedodd 37 arall oedd wedi profi neu fod yn dyst i'r fath ymddygiad nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i neb yn swyddogol.

Cafodd cyfanswm o 128 o ymatebion eu derbyn gyda 16.8% yn cymryd rhan - tua un o bob chwech.

Disgrifiad,

Dywedodd cyfarwyddwr Â鶹ԼÅÄ Cymru, Rhodri Talfan Davies y byddan nhw'n edrych yn fanwl ar yr honiadau

Dywedodd cyfarwyddwr Â鶹ԼÅÄ Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Yn amlwg, mae yna honiadau difrifol ac rydym yn mynd i edrych yn ofalus ar y wybodaeth sydd wedi ei darlledu heno.

"Mae hi'n hynod o anodd gwirio'r math yma o honiadau, maen nhw wedi eu rhannu'n gyfrinachol ac rydym yn parchu hynny.

"Dwi wedi bod yn y swydd am saith mlynedd a dwi erioed wedi clywed honiadau o'r math hwn yn erbyn unigolion o'r blaen, ond dydyn ni ddim yn hunanfodlon - os cawn ni unrhyw wybodaeth y gallwn ni ymchwilio iddo, byddwn yn gwneud hynny'n gadarn a thrylwyr."

'Urddas a Pharch'

Mewn datganiad, cyfeiriodd y Cynulliad Cenedlaethol at y polisi Urddas a Pharch gafodd ei gymeradwyo'n ddiweddar, lle bydd yna ymchwiliad yn cael ei gynnal i gwyn yn erbyn unrhyw un sy'n gweithio'n neu'n ymweld â'r Cynulliad.

Ychwanegwyd: "Does dim lle i unrhyw fath o ymddygiad amhriodol o fewn y Cynulliad.

"Mae tystiolaethau'r menywod sydd wedi eu cyfweld gan Wales Live a chanlyniad arolwg y Â鶹ԼÅÄ ynghyd â chanlyniadau ein harolwg ni, yn dangos yn glir bod rhaid gwneud cymaint mwy i sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn lle diogel i bobl weithio, i'r rhai sy'n ymweld â'r ystad ac unrhyw un sy'n delio â ni.

"I'r rhai sy'n profi ymddygiad amhriodol, ym mha bynnag ffurf, rhaid i ni sicrhau eu bod yn teimlo y gallan nhw ddod aton ni am gyngor a chefnogaeth, yn ogystal â gwneud cwyn os dymunan nhw wneud hynny."

Dywedodd y Â鶹ԼÅÄ y gall unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach ddod ymlaen yn ddienw neu drwy sefydliad annibynnol Expolink.

Mae gwybodaeth a chefnogaeth i gael ar faterion yn ymwneud â'r erthygl hon i'w gael ar Â鶹ԼÅÄ Action Line.