Galw am fwy o ardaloedd 20mya yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, 20's Plenty for Us

Disgrifiad o'r llun, Mae cylchoedd coch yn dangos y cynghorau sydd ag ardaloedd cymunedol 20mya, gyda chalonnau coch yn dangos lle mae ymgyrchoedd lleol

Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o safbwynt lleihau cyfyngiadau cyflymder o 30mya i 20mya mewn ardaloedd trefol, medd un grŵp ymgyrchu.

Caerdydd yw'r unig gyngor i gyflwyno uchafswm o 20mya yn y rhan fwyaf o strydoedd preswyl o gymharu â mwy na 50 o gynghorau yn Lloegr.

Fe ddywed y grŵp 20's Plenty for Us eu bod am weld Llywodraeth Cymru'n defnyddio pwerau newydd i ostwng yr uchafswm.

Ond mae un grŵp moduro yn dweud na fyddai hynny'n arwain at strydoedd mwy diogel.

Cynghorau sir sydd â'r cyfrifoldeb o osod cyfyngiadau cyflymder ac mae'r fwyaf wedi cyflwyno ardaloedd 20mya y tu allan i ysgolion.

'Cefnogaeth i'r syniad'

Dywedodd Rod King, sylfaenydd 20's Plenty for Us, fod Cymru'n dechrau mabwysiadu'r syniad o gael cyfyngiad o 20mya mewn ardaloedd preswyl.

"Dydw i ddim yn siŵr pam fod Cymru ar ei hôl hi ar y mater yma," meddai.

"Ond mae cefnogaeth i'r syniad ac mae cyfle nawr gan fod gan Llywodraeth Cymru'r grym i weithredu hyn yn genedlaethol."

Fe wnaeth adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 ddod i'r casgliad y byddai "budd sylweddol" i'r cyhoedd o ostwng yr uchafswm cyflymder.

Dywed yr adroddaid y byddai allyriadau trafnidiaeth yn gostwng o 12% mewn ardaloedd preswyl, ac y byddai'n arwain at tua 2,000 yn llai o ddioddefwyr o ganlyniad i wrthdrawiadau bob blwyddyn.

Ond mae Hugh Bladon o fudiad Alliance of British Drivers, yn credu bod cyflwyno mwy o ardaloedd 20mya yn "syniad abswrd".

"Rwy'n byw ger Bryste lle mae arian yn cael ei wario ar arwyddion 20mya a does neb yn cymryd sylw ohonyn nhw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru yn aros am gasglaidau gwaith ymchwil ar y mater

"Ac mewn gwirionedd os ydych chi mewn ardal 20mya mae pobl yn credu fod honno'n ardal ddiogel a ddim yn talu cymaint o sylw i'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas... weithiau maen nhw'n crwydro i ganol y ffordd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gwaith ymchwil i'r effaith o leihau cyfyngiadau cyflymder ar lefel genedlaethol wedi profi'n aneglur.

"Rydym yn parhau gyda'r gwaith ymchwil yn y maes yma ac yn gweithio'n agos gyda'r Adran Drafnidiaeth sydd wedi comisiynu gwaith ymchwil tair blynedd er mwyn ystyried y budd o ostwng cyfyngiadau cyflymder mewn parthau 30mya, " meddai'r llefarydd.

"Mae disgwyl i'r gwaith ymchwil yna gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn."