Â鶹ԼÅÄ

Sefydlu uned troseddau gwledig newydd yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
PCSO Caryl Griffiths a'r Cwnstabl Esther DaviesFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y PCSO Caryl Griffiths a'r Cwnstabl Esther Davies yn gwasanaethu'r ardal rhwng Crymych a Machynlleth

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi sefydlu uned troseddau cefn gwlad am y tro cyntaf.

Bydd yr uned yn gyfrifol am ddelio gyda materion amrywiol fel aflonyddu defaid a lladrata da byw, ac yn rhoi cyngor a chefnogaeth atal troseddu.

Y gobaith yw y bydd timau o amgylch y wlad yn gweithio fel un i fynd i'r afael â throseddu yng nghefn gwlad.

Bydd yr uned hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dau swyddog fydd yn gyfrifol am ranbarth Ceredigion - y Cwnstabl Esther Davies a'r PCSO Caryl Griffiths - yn dilyn hyfforddiant gan uned troseddau cefn gwlad Gogledd Cymru.

Wrth drafod ei rôl newydd dywedodd Ms Griffiths: "Bydd y swydd newydd yn sialens, ond yn hynod o werthfawr".

'Un tîm mawr'

Mae'r uned newydd yn gyfrifol am ofalu am ranbarth Ceredigion sy'n ymestyn o Grymych i Fachynlleth.

Mae'n rhan o strategaeth trosedd cefn gwlad y llu, sydd eisiau datblygu dealltwriaeth a sgiliau cefn gwlad eu swyddogion.

Bydd yr uned yn cydweithio'n agos gyda'r adran gyfatebol yn y gogledd a gafodd ei sefydlu bum mlynedd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Croesawu'r cydweithio rhwng y lluoedd mae'r Cwnstabl Dewi Evans o'r tîm cyfatebol yn y gogledd

Yn ôl y cwnstabl Dewi Evans o dîm Heddlu'r Gogledd, mae'r cydweithio'n gyfle da i ddelio â throsedd ar y ffin.

"Bydd hi'n haws o lawer dod i'r afael â'r broblem gan ein bod ni rŵan yn un tîm mawr," meddai.

Bwriadu ehangu

Yn ôl y Prif Arolygydd Richard Hopcyn o Heddlu Dyfed-Powys y bwriad yw ehangu o Geredigion i'r rhanbarth cyfan.

"Ceredigion yw'r rhai cyntaf, ond yna bydd swyddogion o Sir Gaerfyrddin, Powys a Sir Benfro hefyd yn mynd i hyfforddi," meddai.

Mae Huw Jones, swyddog efo Undeb Amaethwyr Cymru ym Meirionnydd yn credu fod yr unedau yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth.

Dywedodd Mr Jones fod "yna achosion lle mae troseddau wedi eu datrys ac wedi eu hatal ar gyfer y dyfodol".

Bydd aelodau uned newydd Ceredigion yn dechrau ar eu gwaith ddydd Llun.