Â鶹ԼÅÄ

Epilog: Ail fframio caneuon operâu roc y 70au a'r 80au

  • Cyhoeddwyd
Roedd Meic Stevens, Geraint Jarman a Heather Jones yn perfformio gyda'u gilydd dan yr enw Bara Menyn ar y pryd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint Jarman, Heather Jones a Meic Stevens yn perfformio gyda'i gilydd dan yr enw Bara Menyn o gwmpas adeg opera roc Etifeddiaeth Trwy'r Mwg

Nos Wener, 15 Mehefin yn y Theatr Newydd, Caerdydd bydd - noson i ddathlu operâu roc Cymraeg y 70au a 80au gyda rhai o'r artistiaid gwreiddiol.

Mae'r noson wedi'i ysgogi gan gasgliad newydd o ganeuon o'r sioeau hyn sy'n cael ei guradu gan y cynhyrchydd Dyl Mei ac mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad ag ef am wraidd ei ddiddordeb yn y ffurf gerddorol hon:

Dwi wedi trio creu rhyw fath o drefn newydd i ganeuon sydd efallai'n llai amlwg o'r sioeau a chreu rhyw fath o gasgliad fydd, gobeithio, os fyddwch chi'n gwrando arno fel albwm, yn swnio fel rhyw fath o opera roc o'r newydd.

Er mor rhyfedd mae hynna'n swnio, mae o i gyd yn gwneud synnwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r operâu yn trafod pynciau fel y Mabinogi a hen straeon chwedlonol Cymreig a Gwyddelig.

Hefyd oherwydd lot o'r amser, bod yr un bobl yn gysylltiedig, mae o bron â bod yn haws creu casgliad allan o'r miwsig yma nag unrhyw fath o genres Cymraeg eraill. Mewn rhyw ffordd maen nhw'n teimlo'n debyg, neu â sŵn rhywbeth tebyg.

Disgrifiad o’r llun,

Branwen a Matholwch (Gillian Elisa a Dewi Pws) mewn golygfa o sioe Melltith ar y Nyth

Dylanwad Nia Ben Aur

Roedd y caneuon yma wastad yn cael eu clywad yn fy nghartref i... Mae gen i chwaer o'r enw Nia a brawd o'r enw Osian felly roedd y dylanwad yn amlwg...

Ond fel ddy'dodd Rhys Mwyn wrtha'i unwaith, mae'n anodd i operâu roc fod yn cŵl achos yn Saesneg y gymhariaeth amlwg gydag operâu roc ydy sioeau fath â Starlight Express... a dydi Starlight Express ddim yn cŵl.

Ond er bod fi'n gyfarwydd efo rhai o'r caneuon, Melltith ar y Nyth wnaeth ennyn y diddordeb go iawn ynna'i.

Nes i brynu hen gopi o'r record mewn siop elusen ym Mhenygroes ac roedd golwg y diawl arno fo, heb ddim clawr, ond pan nes i chwarae hi - waw!

Hefyd o ddiddordeb:

Do'n i erioed wedi clywed amdano fo a doedd gen i'm y clawr, felly doedd gen i ddim manylion am y caneuon o gwbl.

Ond dros y blynyddoedd, nes i ddarganfod bod nhw wedi gwneud ffilm o'r sioe, a bod Endaf Emlyn a Hywel Gwynfryn wedi bod yn gyfrifol am ei 'sgrifennu.

Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o gynhyrchiad gwreiddiol 'Melltith ar y Nyth' yn 1975

Roedd bywyd cyn Nia

Mae pawb yn meddwl mai opera roc Nia Ben Aur oedd yr un gyntaf, ond roedd operâu wedi'u creu bell cyn hynny gan bobl fel Meic Stevens, Geraint Jarman a Heather Jones.

Wnaethon nhw sgwennu opera roc tua 1969 ar gyfer HTV sef Etifeddiaeth Trwy'r Mwg, a dydi'r casgliad o ganeuon erioed wedi'u rhyddhau fel un albym.

Cartref cyntaf

Ond wrth gwrs mae caneuon adnabyddus o'r sioe yn amlwg iawn erbyn hyn. Mwg, er enghraifft, a'r gân sydd yng nghasgliad Epilog, sef Myfi yw'r Dechreuad oedd yn 'B side' un o ganeuon eraill Meic.

Ffynhonnell y llun, Dyl Mei

Hefyd albwm y Dref Wen gan Tecwyn Ifan, wel mae honna'n cynnwys caneuon o ddwy opera roc sef yr Anwariaid... a dwi'n meddwl ma' Gwenllïan ydi enw'r llall.

Weithia' mae caneuon 'da ni'n gyfarwydd efo nhw, ond ella efo dim syniad bod eu gwreiddiau mewn rhyw sioe opera roc.

Felly pan o'n i'n sgwrsio efo Alun [Llwyd, Recordiau Turnstile] am wneud casgliad o ryw fath, roedd y syniad o ail-fframio rhai o'r caneuon hyn a rhoi bywyd newydd iddyn nhw yn un oedd yn apelio.

Cynulleidfa newydd?

Wrth edrych yn ôl, efallai ar y pryd, fyddai rhai pobl wedi ystyried y math yma o gerddoriaeth ychydig bach yn naff... Ond mae'r cynhyrchu arnyn nhw yn amazing, mae'r caneuon yn wych, ac maen nhw wedi dyddio'n uffernol o dda.

Y gobaith ydi erbyn hyn, bod cenhedlaeth newydd o bobl yn barod i gael eu cyflwyno i'r caneuon.

.

Ffynhonnell y llun, Turnstile