Â鶹ԼÅÄ

Lluniau: Ras 100 milltir Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd

Ar benwythnos Mai 12-13 roedd ras 'ultra' 100 milltir yn cael ei chynnal ar hyd arfordir Sir Benfro.

Roedd y ras yn dechrau am 8:00am fore Sadwrn o Dale ger Aberdaugleddau, ac roedd gan y cystadleuwyr hyd at 8:00pm nos Sul i gwblhau y ras, gan orffen yn Llandudoch.

Un o'r rheiny oedd yn rhedeg ras 100 milltir am y tro cyntaf oedd Christian Servini o Gaerdydd, ac fe gadwodd gofnod o'i daith mewn lluniau.

Codi'n gynnar yn Aberteifi a dal y bws i Dale i ddechrau'r ras.

Y gwaith paratoi wedi ei gwblhau a dyma fi'n barod i fynd.

Ychydig filltiroedd i mewn i'r ras ac yn mwynhau arfordir Penfro yn barod.

Un o'r nifer fawr o gamfeydd ar y llwybr.

Doedd y siwrne i gyd ddim yn fflat - roedd 5,000m o ddringo ar y llwybr o Dale i Landudoch.

Gan fod y ras yn dilyn llwybr yr arfordir, roedd yn hawdd i ni ffeindio ein ffordd...

Wedi awr o redeg, amser am hunlun sydyn.

Mae'r llwybr yn gallu bod yn ddigon twyllodrus - felly mae arwyddion fel hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol!

Y checkpoint cynta wedi 15 milltir - amser am pop a 'chydig o fwyd.

Doedd y ceffylau ddim i'w gweld yn meindio ni'n rhedeg yn eu plith.

Cyrraedd Niwgwl wedi chwe awr o redeg. Amser am rywbeth sydyn i fwyta mewn caffi.

Roedd yn anrhydedd rhedeg mewn golygfeydd o'r fath.

Defaid yn yr ymuno â'r ras.

Doeddwn i heb redeg drwy'r nos o'r blaen, ac roeddwn yn nerfus gyda'r haul yn machlud ar y gorwel. Ond roeddwn yn rhedeg gyda dau arall erbyn hyn, ac wedi penderfynu sticio gyda'n gilydd drwy'r nos.

Hunlun arall wedi 13 awr o redeg - y blinder wir yn dechrau cael effaith erbyn hyn.

Y nifer o gamau roeddwn wedi eu gwneud erbyn iddi nosi.

Checkpoint am 2 y bore: hot dogs, te a custard creams. Roedden ni yno am 15 munud ac roedd wir angen y cyfnod i orffwys.

Yr haul yn gwawrio - golygfa hyfryd i gymryd fy sylw o'r boen ofnadwy yn fy nghoesau!

Efallai o ddiddordeb: