Â鶹ԼÅÄ

'Tair i bedair blynedd' nes gwelliannau ar drenau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Trenau Arriva CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Trenau Arriva Cymru'n rhoi'r gorau i redeg gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau eleni

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y bydd hi'n cymryd tair i bedair blynedd cyn i gwsmeriaid ddechrau gweld gwelliannau ar drenau Cymru.

Bydd olynydd Trenau Arriva Cymru i redeg masnachfraint Cymru a'r Gororau am y 15 mlynedd nesaf yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis.

Dywedodd Mr Jones nad oedd safonau Trenau Arriva Cymru wedi bod yn ddigon uchel, gyda cherbydau 40 mlynedd oed yn cael eu defnyddio.

"Bydd hi'n cymryd ychydig o amser i gael y trenau a chael popeth yn ei le er mwyn trydaneiddio rheilffyrdd y cymoedd," meddai'r prif weinidog wrth agor gorsaf Pen-y-bont ar ei newydd wedd.

"Fydd e ddim yn digwydd dros nos ond os yw pobl yn gofyn i mi pryd 'dyn ni am weld newid go iawn bydden i'n dweud dechrau'r 2020au.

"Mewn tair i bedair blynedd, dyna pryd fydd pobl yn gweld newid go iawn i'r gwasanaeth, pan fydd popeth yn dechrau disgyn i'w le.

"Y tro diwethaf i'r fasnachfraint gael ei brydlesu, mae'n amlwg i mi nad oedd safonau mor uchel ag y dylen nhw fod ac rydyn ni eisiau sicrhau fod safonau'n uwch nawr a bod pwy bynnag sy'n llwyddiannus wrth gael y fasnachfraint newydd yn darparu gwasanaeth llawer gwell o ran cysondeb a dibynadwyedd.

"Dyw defnyddio trenau sydd 40 mlynedd oed ddim yn dderbyniol mwyach."