Â鶹ԼÅÄ

101 myfyriwr yn adrodd achos o gam-drin ym Mhrifysgol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
MyfyriwrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn dweud bod angen sicrhau bod gan fyfyrwyr yng Nghymru y cyfle i adrodd am achosion o gam-drin.

Mae'r undeb yn gobeithio y bydd prifysgolion eraill yn efelychu system Prifysgol Caerdydd o gofnodi achosion.

Rhwng Hydref 2017 a Mai 2018 fe wnaeth 101 o fyfyrwyr gofnodi digwyddiadau ar system ar-lein newydd y brifysgol.

Roedd cyfran sylweddol yn achosion o gam-drin o fewn perthynas, ond cafodd mwy na 30 achos o dreisio a 40 o ymosodiadau rhyw eu cofnodi drwy'r system hefyd.

Dywedodd un myfyriwr wrth raglen Post Cyntaf na ddylai pobl deimlo cywilydd os ydyn nhw'n dioddef trais neu'n cael eu cam-drin wedi i rywun ymosod yn rhywiol arnyn nhw ar eu ffordd adref o barti.

Sefydlodd Prifysgol Caerdydd drefn newydd ganolog ym mis Hydref i'w gwneud hi'n haws i fyfyrwyr allu rhoi gwybod am achosion o gam-drin neu drais.

'Gweithredu yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol'

Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn dweud bod angen sicrhau bod gan fyfyrwyr ar draws Cymru y cyfle i allu adrodd achosion o gam-drin.

Dywedodd Carmen Smith, Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrywr Cymru: "Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn gallu siarad a thrafod achosion fel hyn.

"Mae prifysgolion wedyn yn gallu gweithredu yn erbyn y rheiny sy'n gyfrifol.

"Rwy'n gobeithio bod prifysgolion ar draws Cymru yn edrych at Gaerdydd ac yn gwneud rhywbeth tebyg.

"Mae'n bwysig iawn bod goroeswyr yn gallu cael cefnogaeth."

'Modd bod yn anhysbys'

Yn ôl Glyn Lloyd o Adran Cefnogi a Lles Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd mae'r broses o gofrestru digwyddiadau a phrofiadau myfyrwyr nawr yn digwydd yn ganolog yn hytrach nag ar hap ar draws y brifysgol.

"Y'n ni wedi trawsnewid y broses," meddai.

"Felly ers mis Hydref mae myfyrwyr nawr yn datgelu'r digwyddiadau ar daflen sydd ar y rhyngrwyd ac ar y daflen honno ry'n ni'n gofyn am wybodaeth ynglŷn â'r hyn sy wedi digwydd.

"O hynny mlaen mae 'da ni staff yn y brifysgol yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd ac yn cysylltu gyda'r myfyrwyr yn uniongyrchol".

Mae staff yn gallu defnyddio'r system ar ran myfyriwr ac fe all y person fod yn anhysbys ond mae nifer yn dewis rhannu eu manylion personol sy'n golygu bod modd i'r brifysgol gynnig cymorth penodol iddyn nhw.

Ychwanegodd Mr Lloyd: "Mae'r nifer o fyfyrwyr sydd wedi dod mlaen a sy' wedi datgelu a defnyddio'r broses hyn yn bendant wedi bod yn ddiddorol a mae wedi bod yn ddiddorol gweld pa mor barod mae myfyrwyr i ddatgelu yr hyn sydd wedi digwydd.

"Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn cynnwys trais o fewn y cartref, yn ogystal â thrais sydd wedi digwydd yn y gymdeithas".

Yn aml mae un myfyriwr yn datgelu mwy nag un digwyddiad o gam-drin neu aflonyddu felly mae rhai o'r ffigyrau yn ymwneud â'r un achos.

Ffigyrau 2017/18

  • Aflonyddu - cyfnod presennol 16, hanesyddol (+12 mis yn ôl) 5

  • Troseddaucasineb - cyfnod presennol 8, hanesyddol (+12 mis yn ôl) 2

  • Stelcian - cyfnod presennol 10

  • Cyffwrdd rhywiol yn groes i ewyllys - cyfnod presennol 16, hanesyddol (+12 mis yn ôl) 6

  • Ymosodiadau rhyw - cyfnod presennol 30, hanesyddol (+12 mis yn ôl) 10

  • Treisio - xyfnod presennol 24, hanesyddol (+12 mis yn ôl) 9

  • Cam-drin o fewn perthynas - cyfnod presennol 43, hanesyddol (+12 mis yn ôl) 10

  • Eraill - cyfnod presennol 18, hanesyddol (+12 mis yn ôl) 3

Enghraifft o achos sydd wedi'i gofnodi

Un enghraifft o'r hyn sydd wedi cael ei adrodd yw myfyriwr rhyngwladol yn ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn rhoi gwybod i aelod o staff bod rhywun wedi ymosod yn rhywiol arno ganol mis Mawrth.

Wedi noson yn yfed gyda'i ffrindiau mewn parti, roedd y dyn 18 oed yn cerdded adref ar ei ben ei hun.

Roedd hi'n bwrw glaw a daeth dyn ato a chynnig iddo gysgodi dan ei ymbarél.

Dywedodd y myfyriwr: "Ar ôl tua dwy funud o fod gyda fe... y peth nesa dwi'n cofio ar ôl cwrdd ag e oedd e'n trio mynd mewn i... trio ymosod arna i.

"Ac yna'n sydyn roedd 'na ddyn arall yna achos roedden ni yn y private compound yma - trodd dyn arall lan ... ro'n i'n meddwl bod e ar gyffuriau achos roedd e'n ymddangos fel pe bai e dros y lle i gyd a wedyn gofynnodd e i fi dalu arian iddo fe."

Llwyddodd y myfyriwr i ddianc ar ôl dweud wrth yr ail ddyn y byddai'n mynd at beiriant arian.

Dywedodd: "Ro'n i'n ofnus iawn ond wedyn cyn gynted â gyrhaeddais i adre ro'n i gyda fy ffrindiau felly tawelodd hynny fy meddwl i achos ro'n i'n gwybod gallai dim byd arall ddigwydd."

Ffoniodd ei ffrind yr heddlu'n syth ond yn y pendraw penderfynodd y myfyriwr nad oedd e am barhau gyda'r mater.

"Dwi ddim wedi dweud wrth fy rhieni am hyn eto achos mae nhw wedi danfon fi o wlad dramor," meddai.

"Fydde fe'n torri eu calonnau nhw, felly ro'n i'n teimlo os oeddwn i'n gorfod mynd trwy ymchwiliad, fyddai siŵr o fod rhaid i fi ddweud wrthyn nhw amdano fe cyn i fi wneud rhywbeth - felly penderfynias i jyst i beidio gwneud e."

Ond penderfynodd y myfyriwr ddweud wrth rywun yn y brifysgol a gyda chaniatâd y myfyriwr fe wnaeth yr aelod o staff gofrestru'r digwyddiad ar system ar-lein y brifysgol.

O ganlyniad, fe wnaeth Adran Gefnogi a Lles Myfyrwyr gynnig cwnsela iddo.

Cafodd llythyr ei roi i diwtoriaid ar ei gwrs yn dweud bod yna amgylchiadau arbennig a allai o bosib gael effaith ar ei waith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Lloyd: "Mae gan Brifysgol Caerdydd adran sy'n cefnogi myfyrwyr ar sawl lefel a be fase'n i'n dweud yw bod ni'n cefnogi myfyrwyr gyda'i materion addysgiadol.

"Y nod tu ôl i broses fel hyn yw bod ni'n cefnogi'r myfyrwyr er mwyn galluogi iddyn nhw barhau efo'u hastudiaethau".

'Rhaid siarad gyda rhywun'

Yn ôl y myfyriwr mae'r brifysgol wedi bod yn "llwyr gefnogol", ac mae'n annog eraill sydd wedi dioddef profiadau tebyg i siarad gyda rhywun.

"Rwy'n nabod pobl sydd wedi cael yr un profiad ond mae nhw 'di cadw fe i'w hunain a dyw hynny ddim yn helpu achos mae'ch meddylie chi'n tyfu, chi'n gw'bod, chi'n beio eich hunan am y sefyllfa, y'ch ch i â chywilydd a doeddwn i ddim isie i hynny ddigwydd," meddai.

"Doeddwn i ddim isie taro iselder neu rhywbeth, felly penderfynais i y ffordd orau i ddelio gyda'r sefyllfa oedd dweud wrth rywun - dweud wrth rywun mewn awdurdod fel bydden i'n cael help os oeddwn i byth angen help.

"Fy neges i fyddai mae'n ok os yw e'n digwydd achos mae wedi digwydd... y gorau allech chi wneud nawr yw siarad gyda rhywun a pheidio beio eich hunain, peidio bod â chywilydd amdano fe."

Ychwanegodd: "Y mwya chi'n siarad amdano fe, y mwya bydd pobl yn gwybod, a'r mwya o ddewrder bydd pobl eraill yn cael os y'ch chi'n dweud. A dyna fy neges i - i beidio teimlo cywilydd."