Â鶹ԼÅÄ

'Diffyg cyfle' i dalent o Gymru, medd actorion

  • Cyhoeddwyd
sharon

Mae dau actor Cymraeg wedi dweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad bod angen defnyddio talent Cymreig wrth wneud ffilmiau a rhaglenni teledu yng Nghymru.

Rhoddodd Sharon Morgan, sydd wedi gweithio fel actores ers 1970 yn Gymraeg a Saesneg, ei thystiolaeth hi yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Bu Julian Lewis Jones - seren y ffilm Invictus - yn rhoi tystiolaeth eiriol gerbron y pwyllgor.

Roedd y ddau yn dweud nad yw talent o Gymru yn cael digon o gyfle mewn cynyrchiadau sy'n cael eu gwneud yma.

Mae'r Pwyllgor yn ymchwilio i gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru, ac roedd y ddau actor yn ddi-flewyn ar dafod yn eu sylwadau.

'Sefyllfa chwerthinllyd'

Dywedodd Sharon Morgan: "Mae'n dristwch mawr i mi erbyn hyn i weld ein dramâu cynhenid yn y ddwy iaith yn diodde'.

"Mae'r cyllidebau bach iawn yn golygu ei bod hi bron yn amhosib creu dramâu o safon heb i'r criwiau technegol a'r actorion gyfaddawdu eu crefft.

"Wrth i'r esgid wasgu mae'r cyd-gynyrchiadau cefn wrth gefn, wedi eu hysgrifennu yn Saesneg a'u cyfarwyddo, gan fwyaf, gan rai sydd ddim yn medru'r Gymraeg yn cyfaddawdu'r cynyrchiadau ymhellach."

Roedd cyfresi diweddar a gafodd eu gwneud yn Gymraeg a Saesneg yn destun pryder arbennig i Ms Morgan. Ychwanegodd:

"Gwelon ni'r sefyllfa chwerthinllyd yn Un Bore Mercher {a gafodd ei dangos yn Gymraeg ar S4C ac yna yn Saesneg fel 'Keeping Faith' ar Â鶹ԼÅÄ Cymru} ble roedd y brif actores hyd yn oed ddim yn siarad Cymraeg... mae Craith hefyd yn enghraifft o ddiffyg parch at y Gymraeg sy'n anwybyddu natur dafodiaethol y Gymraeg.

"Mae'r dramâu yma'n cael eu castio gan Saeson o Lundain sy'n parchu actorion sy'n enwog yn Lloegr, ac yn anwybyddu llawer o'n hactorion gorau ni."

'Dibwys ac israddol'

Sôn am fyd ffilmiau oedd Julian Lewis Jones pan ddywedodd wrth y pwyllgor: "Beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar yng Nghymru yw ein bod ni'n cynhyrchu ffilmiau fel lleoliad, ond nid gyda thalent o Gymru a dyw nhw ddim yn ffilmiau sy'n sefyll dros Gymru.

"Maen nhw'n gynyrchiadau sy'n dod i Gymru - ry'n ni'n hapus iddyn nhw wneud hynny, ac yn hapus bod y sêr yn dod yma ac yn y blaen - ond ry'n ni ar ein colled am nad yw ffilmiau Cymreig yn cael eu gwneud."

Ychwanegodd fod rhai cynhyrchwyr o'r tu allan i Gymru yn gweld acen Gymreig fel problem.

"Mae stigma am ein hacen o hyd," meddai. "Nid i bawb wrth gwrs, ond mae'n bodoli weithiau."

Roedd Sharon Morgan hefyd yn feirniadol, gan ychwanegu: "Mae'r cwmnïau yma, fel y pwyslais ar y Saesneg yn y cynyrchiadau cefn wrth gefn, yn ein hatgoffa drosodd a throsodd bod ein hunaniaeth ni yn amherthnasol, yn ddibwys ac yn israddol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:" Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu cefnogaeth sylweddol i ffilmiau cynhenid Cymraeg a phrosiectau sy'n cael eu darlledu ar deledu a phlatfformau ar-lein.

"Er enghraifft rydym yn falch o gefnogi'r ddrama lwyddiannus y Â鶹ԼÅÄ, Un Bore Mercher, gafodd ei chynhyrchu'n ddwyieithog oedd yn llawn o Gymry talentog."

Disgrifiad o’r llun,

Sharon Morgan yn y ffilm 'Y Llyfrgell'

Dywedodd llefarydd ar ran Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Gydag actorion Cymreig yn serennu ym mhob un, mae'r dramau sy'n gyd-gynyrchiadau rhwng S4C a'r Â鶹ԼÅÄ wedi profi'n rhai poblogaidd iawn dros y blynyddoedd. O Y Gwyll/Hinterland i Un Bore Mercher/Keeping Faith a Craith/Hidden - fydd i'w weld ar Â鶹ԼÅÄ One Wales a Â鶹ԼÅÄ Four fis nesaf - mae'r cyfresi wedi cael ymateb cadarnhaol tu hwnt.

"Mae'r model o gyd-gynhyrchu - sy'n boblogaidd ymhlith darlledwyr ar draws y byd - yn sicrhau fod adnoddau i greu dramau pwerus a phellgyrhaeddiol."

Ychwanegodd llefarydd ar ran S4C eu bod yn "falch iawn o roi llwyfan i grefft actorion Cymraeg", a bod eu cynyrchiadau diweddar yn "ddramâu llwyddiannus sy'n apelio at gynulleidfa eang".

"Mae cyd-gynhyrchu yn fodel llwyddiannus i ni, sy'n gallu ychwanegu gwerth a chreu cyllidebau mwy ar gyfer rhaglenni uchelgeisiol i wylwyr yn yr iaith Gymraeg, heb gyfaddawdu ar safon," meddai.

"Rydym yn falch iawn o gyd-weithio gyda phartneriaid cynhyrchu a dosbarthu er mwyn creu dramâu rhagorol sydd at fodd ein gwylwyr craidd ac sy'n apelio at gynulleidfa ehangach yr un pryd, gan ymestyn y gwaith ar lwyfan rhyngwladol."