Carwyn Jones yn galw ar bleidiau i 'gydweithio' ar Brexit

Ffynhonnell y llun, Getty/Â鶹ԼÅÄ

Bydd prif weinidog Cymru'n galw ar bleidiau'r DU roi gwleidyddiaeth i "un ochr" a "chydweithio" er mwyn sicrhau cytundeb Brexit da ddydd Mercher.

Yn siarad mewn digwyddiad yn swyddfeydd Comisiwn yr UE yng Nghaerdydd, bydd Carwyn Jones hefyd yn dweud bod y trafodaethau dros adael yr undeb yn gyfle i gynnig gwleidyddiaeth sy'n "fwy caredig ac yn decach".

"Mae mwy sy'n ein huno ni nag sy'n ein rhannu," fydd neges Mr Jones yn ei araith i nodi Diwrnod Ewrop - dathliad ar draws yr undeb o heddwch ac undod ledled y cyfandir.

"Mae Ewrop, i ddefnyddio dywediad enwog, yn fwy na chasgliad o daleithiau glas a choch.

"Rydym yn gyfandir sydd eisiau yr un pethau; heddwch, llewyrch ac yfory gwell.

"A dyna fy neges syml i ar ddiwrnod Ewrop 2018. Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ond dydyn ni ddim yn gadael Ewrop.

Disgrifiad o'r llun, Yn ystod trafodaeth ar gytundeb Brexit ddydd Mawrth fe wnaeth Mr Jones gymharu Leanne Wood i Jacob Rees-Mogg

"Rwy'n credu y gall y Deyrnas Unedig ddefnyddio'r cyfle yma i ail-ddylunio ein perthynas gyda'n partneriaid Ewropeaidd mewn ffordd sy'n diogelu'r pethau sydd gennym yn gyffredin, ac o ganlyniad ein helpu i ni i gyflawni ein huchelgais o wleidyddiaeth sy'n fwy caredig a thecach.

"Felly rydw i'n herio pob plaid wleidyddol yng Nghymru a'r DU i roi gwleidyddiaeth i un ochr a gweld Brexit drwy lens mwy llydan.

"Dewch i ni weithio gyda'n gilydd mewn ysbryd newydd o bartneriaeth i adeiladu perthynas mwy cadarnhaol gyda'n partneriaid Ewropeaidd dros y 12 mis nesaf a sicrhau setliad y gall y genhedlaeth nesaf fod yn falch ohono."

Wood a Rees-Mogg

Daw sylwadau Mr Jones am gydweithio yn dilyn ffrae arall gydag arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn y Senedd ddydd Mawrth.

Wrth ymateb i gwestiwn am y cytundeb diweddar rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ar ddiwedd anghydfod ynghylch effaith Brexit ar ddatganoli, fe wnaeth Mr Jones gymharu Ms Wood â'r AS Ceidwadol, Jacob Rees-Mogg, sy'n daer o blaid Brexit.

Yng nghanol y chwerthin yn y Siambr dywedodd Ms Wood: "Ydych chi o ddifrif, Jacob Rees-Mogg?"