Adroddiad Tawel Fan: 'Dim camdriniaeth sefydliadol'

Disgrifiad o'r llun, Fe gaeodd ward Tawel Fan yn sydyn yn 2013 ac fe allai'r adeilad gael ei ddymchwel fel rhan o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau iechyd meddwl

Mae adroddiad cynhwysfawr a hir-ddisgwyliedig i honiadau difrifol o gam-drin cleifion oedrannus ar gyn-ward iechyd meddwl wedi dod i'r casgliad nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol.

Fe gaeodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn Rhagfyr 2013 yn sgil pryderon ynglŷn â'r gofal oedd yn cael ei ddarparu yno.

Mae rhai o berthnasau cyn-gleifion yn dweud bod y casgliadau wedi eu "gwylltio a'u llorio".

Dywedodd prif weithredwr y bwrdd, Gary Doherty eu bod yn derbyn y canfyddiadau ac yn sefydlu tasglu i weithredu'r argymhellion "ar fyrder".

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, mae'n "gwbl glir fod tipyn o waith gan y bwrdd iechyd i'w wneud eto i wella" mewn nifer o feysydd, ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig fe fydd llawer yn teimlo mai "gwyngalchiad" yw'r adroddiad.

'Safon dda'

Daeth ymchwiliad annibynnol yn 2015 i'r casgliad fod camdriniaeth sefydliadol wedi bod yn Nhawel Fan ar ôl clywed adroddiadau fod ymweld â'r ward yn debyg i fod mewn "sŵ".

Ond ar ôl edrych i amgylchiadau 108 o gleifion dementia ers 2007, mae adroddiad dydd Iau gan HASCAS (Health and Social Care Advisory Service) yn dweud bod y dystiolaeth a roddwyd yn flaenorol yn anghyflawn, wedi ei chamddehongli a'i chymryd allan o gyd-destun, yn seiliedig ar wybodaeth gamarweiniol a chamddealltwriaeth.

Daw'r ymchwiliad i'r casgliad bod "y gofal a'r driniaeth gan feddygon a nyrsys ward Tawel Fan o safon dda yn gyffredinol".

Fodd bynnag, mae'r panel yn dweud bod methiannau wedi amharu ar brofiadau rhai cleifion a'u teuluoedd - methiannau yn cynnwys "cyfyngiadau ariannol sylweddol, gwasanaeth wedi'i ddylunio'n wael a threfniadau llywodraethu aneffeithiol".

Dywedodd bod y methiannau'n berthnasol i ystod eang o wasanaethau, nid i un ward yn arbennig, a bod methiant cyffredinol i lunio a chydlynu gwasanaethau dementia.

Ychwanegodd fod trefniadau rheoli ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn "wan" a bod hynny'n rhwystro "agwedd gadarn at ddiogelwch cleifion".

Disgrifiad o'r llun, Roedd adroddiad annibynnol Donna Ockenden yn 2015 yn dweud bod yna gamdriniaeth drwyddi draw ar y ward

Roedd problemau ehangach yn golygu na chafodd cleifion y gofal cywir yn y lle cywir ar yr adeg cywir, gan arwain at oedi, gofid a diffyg urddas.

Hefyd ni chafodd cleifion ddigon o gyngor a chefnogaeth, a doedd strwythurau o fewn y bwrdd iechyd ddim yn ddigon cryf i warchod oedolion bregus.

Mae ymchwiliad annibynnol yn gwneud 15 o argymhellion i wella'r gofal yn y dyfodol i gleifion oedrannus a'u teuluoedd.

Mae'n dweud bod disgwyl nawr i'r bwrdd iechyd weithredu'r argymhellion a sicrhau gwelliannau go iawn ar gyfer y boblogaeth mae'n ei gwasanaethu.

'Camddeall'

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Androulla Johnstone: "Doedd y panel ymchwilio ddim yn gallu dod i union yr un casgliadau o gamdriniaeth ag ymchwiliadau ac adolygiadau blaenorol.

"Dyw hyn ddim yn golygu bod y panel ymchwilio yn gallu datgan yn ddiamod bod camdriniaeth ar glaf unigol erioed wedi digwydd ar ward Tawel Fan; ni all unrhyw ymchwiliad o'r math yma wneud datganiad mod hyderus a hynny.

"Fodd bynnag, fe allai'r panel ymchwilio ddod i'r casgliad fod y dystiolaeth [y gwnaeth ymchwiliadau blaenorol ddibynnu arnyn nhw, naill ai] yn:

  • anghyflawn;
  • wedi ei chamddehongli;
  • wedi ei chymryd allan o gyd-destun;
  • seiliedig ar wybodaeth anghywir (a chamarweiniol ar adegau); neu
  • wedi ei chamddeall."

Ychwanegodd bod panel ymchwilio "felly yn dod i'r casgliad bod dim tystiolaeth i gefnogi honiadau blaenorol fod cleifion wedi dioddef camdriniaeth fwriadol neu esgeulustod bwriadol, neu bod y system wedi methu a rhoi gofal a thriniaeth mewn ffordd sy'n cwrdd â meini prawf yr hyn yw camdriniaeth sefydliadol".

Gwelliannau... a chwestiynau

Dywedodd Gary Doherty, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu bod yn "derbyn darganfyddiadau'r adroddiad ac yn sefydlu tasglu ar unwaith... i symud yr argymhellion ymlaen ar fyrder".

Ychwanegodd y bydd argymhellion yr adroddiad yn "arwain ac yn llywio ein gwaith i ddarparu gwelliannau ar draws ein gwasanaethau i gyd".

Dywedodd bod y bwrdd wedi dechrau gweithio ar welliannau fel "datblygu llwybrau gofal newydd, rhaglen i roi Pasbort Dementia ar waith... oriau ymweld agored... ac ymgyrch... i helpu perthnasau a gofalwyr weld eu hanwyliaid pryd bynnag y dymunant".

Ond cyfaddefodd ei bod "yn berffaith glir bod gennym lawer mwy i'w wneud".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, ei fod am i'r bwrdd iechyd fynd ati'n gyflymach i wneud gwelliannau mewn nifer o feysydd.

Er nad oedd panel HASCAS yn gallu cadarnhau honiadau o gam-drin sefydliadol, dywedodd Mr Gething bod yr adroddiad yn tanlinellu "methiannau ehangach o fewn y bwrdd iechyd".

Dywedodd ei fod "yn gwbl glir fod tipyn o waith gan y bwrdd iechyd i'w wneud eto i wella, ac y bydd angen mwy o drosolwg ag iddo ffocws penodol o dan y trefniadau mesurau arbennig".

Ychwanegodd y byddai'r casgliadau "yn sbardun i wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd allu camu allan o'r cysgod sydd wedi ei daflu drostynt ers blynyddoedd bellach".

'Gwyngalchu'

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud mai "gwyngalchiad" yw'r adroddiad.

Dywedodd Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd Darren Millar ei bod hi bellach yn bedair blynedd a hanner ers cau'r ward ac yn lle atebion, mae gan deuluoedd Tawel Fan hyd yn oed mwy o gwestiynau am y gofal y cafodd eu hanwyliaid.

"Mae teuluoedd Tawel Fan a phobl Gogledd Cymru yn haeddu gwell, a dyna pam mae angen ymchwiliad traws-bleidiol i sicrhau ein bod yn dod at wraidd yr hyn sydd wedi digwydd unwaith ac am byth."

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth AC: "Er bod [yr adroddiad] yn gwrthod yr honiad o gamdriniaeth ac esgeulustra sefydliadol, mae'n glir y dylai'r hyn ddigwyddodd fod wedi ei osgoi.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gymryd cyfrifoldeb lawn am weithredu'r argymhellion am newid ar frys. Mae pobl fregus yn ein cymdeithas yn haeddu dim llai."