Galw am fwy o gefnogaeth i rieni ar 么l colli'u plant

Disgrifiad o'r llun, Er i'r ysbyty wneud popeth posib i'w helpu wedi marwolaeth ei merch. dywed Llinos Eames Jones y byddai wedi gwerthfawrogi rhagor o wasanaethau i'w chynnal mewn cyfnod anodd
  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Mae mam o Wynedd, sydd wedi codi dros 拢90,000 i ysbytai gogledd Cymru ers colli ei merch, yn galw am i'r elusen a'i helpodd hi gael mynd i mewn i ysbytai i fod yn gefn i rieni sy'n mynd drwy'r un profiad.

Yn 么l Llinos Eames Jones o bentref Bontnewydd, does dim digon o ymwybyddiaeth o Sands (Stillbirth and Neonatal Death Society), ac mae hefyd yn galw am fwy o ystafelloedd galaru yn ysbytai Cymru fel bod gan rieni rywle tawel i fod gyda'i gilydd yn eu colled.

Yn 2000 collodd hi ei merch, Mari Lois, gafodd ei geni'n farw-anedig ar 么l cymhlethdodau yn ystod y beichiogrwydd.

Er i'r ysbyty wneud popeth posib i'w helpu, mae hi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth i rieni sy'n mynd trwy brofiad tebyg ac mae wedi treulio blynyddoedd yn ceisio gwella'r sefyllfa.

Cyfnod byr i greu atgofion oes

Dywedodd: "Mi ddaru ni benderfynu dechrau cronfa Mari Lois a wedyn digwydd bod ddydd Sadwrn mi fydda' hi wedi bod yn ben-blwydd arni yn 18 oed a roeddan ni'n teimlo'n bod ni eisiau gwneud rhywbeth positif eto.

"Mi ddaru Ysbyty Glan Clwyd ffonio a gofyn faswn i'n licio helpu i ddodrefnu 'stafell i rieni sy'n galaru.

"Ma' elusen Sands yn trio gwneud yn si诺r bod y 'stafelloedd yma ar gael drwy'r wlad i helpu rhieni. Maen nhw'n cael bod hefo'i gilydd.

"'Da ni'n rhoi gwely dwbl yno i Dad neu aelod arall o'r teulu gael bod hefo Mam. Mae ganddon ni be' maen nhw'n galw yn cooling cot fel bod y babi'n cael aros hefo nhw.

"'Da chi'n gorfod creu'ch atgofion oes mewn ychydig iawn o amser. Dyna sy'n bwysig, bod ni'n gallu helpu rhieni sydd yn colli yn y dyfodol trwy gael hon.

"'Da ni 'di gwneud 'stafell debyg fyny yn Ysbyty Gwynedd - 'Ystafell Angel' 'da ni wedi'i galw hi. Mae'n boblogaidd, mae rhieni'n cofio bod nhw wedi cael defnydd ohoni. 'Da ni eisiau'r un math o beth yn Glan Clwyd."

'Colli oes efo'r plentyn'

Roedd hi'n chwe mis ar 么l colli Mari Lois cyn bod Llinos wedi cysylltu ag elusen Sands am gymorth.

"Ges i bamffled tra o'n i'n yr ysbyty, ond fel mae rhywun 'efo pethau fel 'na, nes i ddim cymryd llawer o sylw.

"Ond ar 么l bod mor brysur hefo'r codi arian mi nes i ddechrau teimlo'n unig iawn ar 么l 'chydig fisoedd. Neb ar 么l i mi siarad hefo nhw go iawn.

"Nes i godi'r ffon a teimlo 'mod i 'di cyrraedd adre'. O'n i'n difaru'n ofnadwy na 'swn i 'di cael help yn gynt, ella 'swn i ddim 'di mynd i'r twll o'n i ynddo fo.

"Mae ffrindiau, ar 么l chwech wythnos mae pobl yn meddwl bod chi 'di mendio. Dydy hynny ddim yn wir hefo plentyn. 'Da chi'n colli oes 'efo'r plentyn, dim jyst babi 'da chi'n colli.

"Mae eisiau llawer mwy o ymwybyddiaeth o Sands. Mae pethau'n gwella'n ara' deg ond mae 'na lawer o ffordd i fynd.

"'Swn i'n licio cael mynd mewn i'r ysbyty. Mae 'na rieni wedi dweud wrtha' i - 'taswn i 'di cael siarad efo chdi neu un ohonoch chi'n gynt fasa fo wedi bod yn gymaint o help i ni'.

"Faswn i 'di licio'r help yna fy hun. Mae o'n hollol bwysig i mi, er mwyn y genhedlaeth nesa', gwneud yn si诺r bod bob dim all fod yna ar gael.

"Chawn ni ddim o Mari Lois yn 么l, ond mae hyn yn ffordd o'n hatgoffa ni bod hi wedi bodoli ar un adeg."