Cadarnhau cyfeirio'r Mesur Parhad at y Goruchaf Lys

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddan nhw'n cyfeirio Mesur Parhad Llywodraeth Cymru i'r llys uchaf yn y wlad.

Y Goruchaf Lys fydd yn penderfynu a fydd y mesur yn cael bod yn ddeddf.

Cafodd y mesur ei basio gan aelodau'r Cynulliad ym mis Mawrth er mwyn ceisio gwarchod pwerau'r Cynulliad ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns mai pwrpas hyn oedd rhoi eglurder cyfreithiol ar y mater, ac na ddylai gael ei weld fel her i awdurdod y Cynulliad.

'Gobeithiol'

Ond mynnodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru yn amddiffyn y mesur "i'r carn".

Parhau me'r trafodaethau rhwng y ddwy lywodraeth ar beth fydd yn digwydd i bwerau ar faterion sydd wedi'u datganoli yn dilyn Brexit.

Dywedodd Mr Cairns ei fod yn "obeithiol" y byddai cytundeb am y 64 o bwerau mewn meysydd datganoledig sy'n dychwelyd o Frwsel.

O dan gynnig diweddaraf Llywodraeth y DU, byddai mwyafrif y pwerau yn dychwelyd i Gaerdydd, Caeredin a Belfast ar ôl Brexit, ond byddai'r gweddill yn cael eu cadw dros dro yn San Steffan.

Mae Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi dweud fod y cynnig hwnnw gyfystyr â "chipio pwerau" ac y dylai fframwaith y DU gyfan gael ei gytuno drwy gonsensws.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Alun Cairns wedi mynnu nad "sialens i rym y Cynulliad" yw'r penderfyniad i gyfeirio'r mesur

Fe bwysleisiodd Mr Cairns eto ddydd Mawrth nad "sialens i rym y Cynulliad" yw'r penderfyniad i gyfeirio'r mesur.

"Dydw i ddim eisiau i unrhyw un ddehongli hyn fel her i awdurdod y Cynulliad - mae hyn am gael eglurder ynglŷn â ble mae'r ffin ddeddfwriaethol," meddai.

"Ry'n ni'n ceisio rhoi sicrwydd i fusnesau a chymunedau wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth i ddeddfwriaeth newydd gael ei hysgrifennu mae'n rhaid i ni gael gwared ar unrhyw ansicrwydd.

"Does dim pwynt cael unrhyw fath o ddeddfwriaeth pan does 'na ddim grym i'w ysgrifennu. Mae hyn yn beth positif er mwyn ffeindio allan yn gwmws ble mae'r ffin, nid bod e'n rhyw fath o sialens i rym y Cynulliad.

"Os cawn ni gytundeb rhwng llywodraethau San Steffan a Chymru a'r Alban, byddwn ni'n tynnu hwn yn ôl o'r Goruchaf Lys ac yn disgwyl bod Llywodraeth Cymru'n tynnu'r ddeddfwriaeth yn ôl hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Y Goruchaf Lys fydd yn penderfynu os fydd y Mesur Parhad yn cael bod yn ddeddf

Wrth ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i gyfeirio'r Mesur Parhad at y Goruchaf Lys, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, nad oedd yn credu "bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi mynd ati yn y ffordd gywir".

"Yn benodol, y ffordd y cafodd y mesur ei phasio drwy'r Cynulliad," meddai.

"Dwi'n meddwl y cafodd Cyfnod 2 ei chwblhau o fewn 40 munud a Chyfnod 3 mewn ychydig llai na hynny mae'n siŵr."

Ychwanegodd ei fod yn "hapus iawn" gyda'r cynnydd oedd wedi'i wneud yn y trafodaethau rhwng llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban ar newidiadau i Fesur Ymadael yr UE.

'Cam eithafol'

Dywedodd AC Plaid Cymru, Bethan Sayed: "Rydyn ni'n credu ei bod hi'n eithafol i Lywodraeth y DU fynd i'r Goruchaf Lys dim ond i gyfiawnhau'r broses.

"Maen nhw'n defnyddio geiriau ysgafn ond mae'n ymddangos fel cam eithafol i gymryd.

"Mae'n gwneud y gwaith ar y cyd hyd yma yn destun gwawd. Os nad ydyn nhw'n ceisio cipio pwerau, pam maen nhw'n mynd â ni i'r llys?"