Â鶹ԼÅÄ

Cofio ein hoff gartŵns Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Siôn Blewyn CochFfynhonnell y llun, S4C

Mae yn cael ei chynnal am y tro cyntaf 19-22 Ebrill mewn lleoliadau ar draws Caerdydd, ac yn gyfle i weld, dysgu am a thrafod animeiddio o bob math.

Yn ystod y penwythnos, bydd rhai o glasuron cartŵns Cymraeg yn cael eu dangos, a fydd yn cynnig ychydig o nostalja am yr 80au gydag anturiaethau Siôn Blewyn Coch yn ei ail ffilm, Ŵy Pasg, ac ychydig o hwyl gwirion gan Gogs!

Dyma ddetholiad o rai o hen ffefrynnau eraill Cymru oedd wedi eu hanimeiddio - ydych chi'n cofio'r rhain?

Ffynhonnell y llun, S4C

Daeth Sali Mali ar ein sgriniau yn ei ffurf cartŵn yn 2000, gyda'r stori yn cael ei leisio gan yr actor Rhys Ifans a'r gân yn cael ei chanu gan Cerys Matthews. Mae'r gyfres wedi cael ei gwerthu i nifer o wahanol wledydd, gan gynnwys Lloegr, gwledydd Sgandinafaidd a Corea ac yn parhau'n boblogaidd hyd heddiw.

Ffynhonnell y llun, S4C

Cafodd y cartŵn am yr hwyaden ddrygionus, Wil Cwac Cwac, ei ddarlledu ar S4C rhwng 1982 ac 1986, ac yn cael ei leisio gan Myfanwy Talog. Roedd plant Cymru wrth eu boddau yn dysgu am anturiaethau Wil a'i ffrindiau, Ifan, Sioni, Dic a Huw, a oedd yn aml yn achosi iddo gael ei anfon i'w wely heb swper gan ei rieni, Martha ac Wmffra. Nos da cwaaac!

Ffynhonnell y llun, S4C

Dathlodd Sam Tân ei ben-blwydd yn 30 oed ym mis Tachwedd 2017, ac mae'n parhau yn boblogaidd ymhlith plant Cymru - er ei fod yn edrych ychydig yn wahanol y dyddiau yma. Mae'r hen ddull stop-motion wedi diflannu, ac wedi cael ei ddisodli gan CGI lliwgar. Mae'n debyg fod rhaid symud gyda'r amser, ond mae gan y fersiwn wreiddiol le arbennig yng nghalon nifer o blant yr 80au!

Ffynhonnell y llun, Beryl Productions

Yr Enwog Ffred oedd ffilm gafodd ei greu yn Gymraeg a Saesneg (o dan yr enw Famous Fred) gan Beryl Productions ar gyfer S4C a Channel 4. Cafodd Joanna Quinn ei henwebu am Oscar a BAFTA yn 1996 amdani yn y categori y ffilm fer wedi ei hanimeiddio.

Ffaith bonws: Joanna oedd hefyd yn gyfrifol am y darluniau wedi eu hanimeiddio oedd yn nheitlau agoriadol y gyfres Jabas.

Ffynhonnell y llun, S4C

Mae Deri Deg yn dyddio o 1983, ac yn y gyfres, cawson ni gyfarfod y cymeriadau lliwgar Concyr, Sycamorwydden, Derwen a Robin y Post. Aeth y cwmni a greodd y rhaglen, Bumper Productions, yna ymlaen i'n hadlonni â hanesion am ddyn tân cyfeillgar oedd yn byw ym Mhontypandy.

Ffynhonnell y llun, S4C

Nid tedi cyffredin mohono... ond SUPERTED! Cafodd straeon am y tedi-bêr hudolus eu hysgrifennu'n wreiddiol gan Mike Young ac er iddo gael cais gan Warner Brothers am yr hawlfraint, roedd yn awyddus i gadw'r prosiect yn Gymreig. Sefydlodd Siriol Productions er mwyn cynhyrchu'r gyfres ei hun, rhwng 1983 ac 1986.

Ffynhonnell y llun, S4C

Cafodd y gyfres am Joshua Jones, sy'n byw ac yn gweithio ar gwch camlas, ei ddangos ar S4C yn 1991. Roedd hefyd wedi ei greu gan gwmni Bumper Films, ac ar gael yn Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, S4C

Mae Abadas, o 2011, yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng y cwmni o Drefforest, ger Pontypridd, Dinamo Productions, a Kavaleer Productions yn Iwerddon. Mae'n dilyn helynt Hari'r Hipo, Ela y Llwynog a Seren yr Ystlum, sydd yn byw yn llyfr pop-up Ben ac yn helpu iddo ddysgu geiriau newydd.

Hefyd o ddiddordeb