Â鶹ԼÅÄ

Pa lyfr wnaeth argraff?

  • Cyhoeddwyd

Am 12:30, dydd Llun 30 Ebrill, dechreuodd cyfres newydd ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru o'r enw 'Sgen Ti Lyfr i mi'.

Yn y gyfres, bydd Catrin Beard yn holi ambell berson adnabyddus am lyfrau sydd wedi dylanwadu arnyn nhw mewn rhyw ffordd.

Fel rhagflas, fuodd Cymru Fyw yn sgwrsio gydag ambell i gyflwynydd Radio Cymru, a gofyn am eu hoff lyfrau nhw:

Disgrifiad o’r llun,

Rhys Mwyn: Mae hunangofiant Robert Roberts yn llwyddo i greu darlun byw o'r Gymru wledig yn y cyfnod Fictoraidd

Rhys Mwyn - A Wandering Scholar, The Life and Opinions of Robert Roberts

Wrth wisgo fy het fel archaeolegydd un o'r amcanion dyddiol yw dod â hanes 'yn fyw', a mae hunangofiant Robert Roberts yn llwyddo i greu darlun byw o'r Gymru wledig yn y cyfnod Fictoraidd. Mae'r llyfr yn darllen fel nofel.

Y 'Sgolor Mawr' o Langernyw oedd Robert Roberts a adawodd Sir Ddinbych, mynd i weithio fel athro ar Ynys Môn, teithio wedyn i Lerpwl a diweddu ei oes yn feddwyn ac yn dlawd yn Awstralia. Cawn drasiedi, comedi a darlun o gyfnod o fewn y gyfrol.

Wrth groesi Llynnau Mymbyr ar hyd y ffordd drosodd at Nant Peris un gaeaf mae Robert druan yn rhewi a mae'r disgrifiad ohono yn dadmer ger y lle tân yn y dafarn yn Nant Peris yn un o'r darnau mwyaf 'ffilmig' i mi erioed ei ddarllen.

Disgrifiad o’r llun,

Nia Roberts: "Fe agorodd y llyfr yma rhyw ddrws bach yn fy meddwl i i fyd o ddarllen er mwyn pleser."

Nia Roberts - Llyfr Mawr y Plant

Roedd hwn ar silff lyfrau fy mhlentyndod ac fe gafodd ddylanwad mawr yn ddi-os. Nid 'mod i'n sylweddoli hynny ar y pryd.

Roeddwn i'n mwynhau darllen am Wil Cwac Cwac, Siôn Blewyn Coch a Twm Parddu. Ond ar wahân i'r straeon, roedd yna gerddi a chaneuon, dramau bach a lluniau, rhai ohonyn nhw mewn lliw!

Fe agorodd y llyfr yma rhyw ddrws bach yn fy meddwl i i fyd o ddarllen er mwyn pleser. 51 mlynedd yn ddiweddarach, mae o dal ar y silff!

Disgrifiad o’r llun,

Aled Hughes: Un Nos Ola Leuad yn brofiad bythgofiadwy

Aled Hughes - Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard

Erioed wedi darllen llyfr mor brydferth o gymhleth.

Mae mynd ar daith trwy feddwl y prif gymeriad, yn enwedig am y tro cyntaf, yn brofiad bythgofiadwy.

Diolch mawr i Caradog Prichard am y nofel.

Disgrifiad o’r llun,

Eddie Ladd: Bwriad y llyfr yw i'n hargyhoeddi fod ein cymdeithas, fod Prydeindod, wedi ei seilio ar hiliaeth.

Eddie Ladd - BRIT (ish) gan Afua Hirsch

Mae'r awdur yn cyfeirio'r gwaith at y gymdeithas ryddfrydol Brydeinig sydd yn honni ei fod yn agored ac yn gynhwysol.

Yn nhyb y gymdeithas hon ni ddylsai gwahanrwydd fodoli. Mae Afua Hirsch yn ei amddiffyn ac mae'n drawiadol sut y bu i J R Jones wneud yr union yr un fath yn ei lyfr ef, Prydeindod.

Nid dadlau gyda'r sawl sydd yn arddel rhagfarn amlwg mae Hirsch. Mae'n dangos fod Prydeindod wedi ei seilio ar hiliaeth, cudd ai beidio, sy'n deillio, yn ein cyfnod ni, o dwf aruthrol cyfalafiaeth yn y ddeunawfed ganrif.

Nid yw'n llyfr academaidd. Mae hi'n sôn am ei phrofiadau hi ei hunan a'r ffordd mae grymoedd hanes yn ymddangos yn ei bywyd beunyddiol.

Mae o hil gymysg, a chanddi fam groenddu o Ghana a thad Iddewig gwyn-ei-groen o'r Almaen. Cafodd ei magu yn Wimbledon a mynd i ysgol fonedd gan fod ei rhieni wedi gweithio'n galed er mwyn iddi gael addysg o'r fath.

Bwriad y llyfr yw i'n hargyhoeddi fod ein cymdeithas, fod Prydeindod, wedi ei seilio ar hiliaeth, ac wedi i ni gydnabod hyn, dywed Hirsch wrth gloi, fe allwn gamu ymlaen, rhyw ddydd, rhyw ddydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Meredydd: Bu'n rhaid i mi ddarllen yr unig dair brawddeg ar y dudalen olaf drosodd a throsodd.

Dafydd Meredydd - O! Tyn y Gorchudd gan Angharad Price

Dwi ddim yn un am nofelau hanesyddol fel arfer, ond gan fod y gyfrol yma wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r ffaith fy mod i'n cofio'r awdures, Angharad Price, yn ddisgybl yn y flwyddyn o dan fy un i yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, flynyddoedd yn ôl, mi benderfynais i ddarllen y llyfr.

Penderfyniad da! Mi gydiodd y stori a'r cymeriadau yn syth, ond beth sy'n codi'r nofel yma uwchlaw unrhyw beth ydw i wedi ei ddarllen mewn unrhyw iaith ydi'r diweddglo ysgytwol. Roedd y tro mor annisgwyl, bu'n rhaid i mi ddarllen yr unig dair brawddeg ar y dudalen olaf drosodd a throsodd, a doeddwn i ddim yn gallu peidio meddwl am y prif gymeriad am wythnosau wedyn.

Llyfr i fwynhau, ond llyfr i wneud i rywun feddwl hefyd, ac i'n gwneud yn ddiolchgar am yr oes yr ydan ni wedi cael ei geni ynddi!

'Sgen Ti Lyfr - 12:30, Dydd Llun Ebrill 30, Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru