Â鶹ԼÅÄ

Yr Ysgrifennydd Amaeth ar ymweliad â Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Seland NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y gallai cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd "ddinistrio" diwydiant cig oen Cymru

Mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig yn Seland Newydd yr wythnos hon er mwyn "tynhau'r cwlwm rhwng y ddwy wlad" cyn Brexit.

Ar ei hymweliad wythnos o hyd bydd Lesley Griffiths yn cwrdd â gwleidyddion ac allforwyr cig.

Mae hi wedi rhybuddio yn y gorffennol y gallai cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd yn dilyn Brexit, .

Wrth siarad cyn yr ymweliad dywedodd Ms Griffiths: "Rwy'n falch fy mod yn mynd i Seland Newydd i dynhau'r cwlwm rhwng y ddwy wlad.

"Fel Cymru, mae Seland Newydd yn wlad fach allblyg sy'n masnachu â'r byd ac rwy'n credu y gallwn ddysgu llawer oddi wrth ein gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lesley Griffiths yn cwrdd â gwleidyddion ac allforwyr cig ar ei hymweliad

Bydd Ms Griffiths yn ymweld ag ardaloedd Auckland a Manawatu i weld ffermydd llaeth, defaid a gwartheg.

Bydd hi hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr o rai o allforwyr mwyaf y wlad, gan gynnwys cwmni llaeth Fonterra, sy'n gyfrifol am chwarter holl allforion Seland Newydd.

"Yn ystod yr ymweliad, byddwn yn cael dysgu am ei diwydiant bwyd a diod - sector allweddol i ni ar ôl Brexit," meddai Ms Griffiths.

"Mae'n gyfle hefyd i ddysgu am brofiadau Seland Newydd o reoli newid mawr yn ei pholisi amaethyddol, hynny ar adeg pan rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod gennym ddiwydiant ffyniannus a chryf yng Nghymru ar ôl gadael yr UE."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lesley Griffiths yn ymweld ag Auckland yng ngogledd Seland Newydd

Fe fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019.

Bydd cyfnod trosglwyddo'n dilyn ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd gweinidogion Llywodraeth y DU yn gallu trafod cytundebau masnach rydd gyda gwledydd o'r tu allan i'r UE.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi sôn eu bod yn gobeithio taro bargen debyg gyda Seland Newydd.

Ond y llynedd fe ddywedodd Ms Griffiths wrth Bwyllgor Materion Gwledig y Cynulliad fod y syniad o gytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd yn peri pryder.

"Os gawn ni lawer o fewnforion cig oen o Seland Newydd, fe fydd yn dinistrio'r diwydiant cig oen yng Nghymru," meddai ar y pryd.

Ymateb Hybu Cig Cymru

Dywedodd prif weithredwr y corff sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch o Gymru bod gwahaniaethau mawr rhwng Cymru a Seland Newydd yn nhermau hinsawdd, natur y sector amaeth a safonau amgylcheddol.

Serch hynny, mae gwersi i'w dysgu o'r ffordd y mae Seland Newydd yn masnachu gyda gwledydd eraill ar draws y byd, medd Gwyn Howells o Hybu Cig Cymru.

Mae'r wlad yn allforio 95% o'i gig oen a thros 80% o'i gig eidion.

"Mae 'na wersi i'w dysgu shwt maen' nhw wedi cael gwelliant ar oes silff eu cynnyrch... mae'n neud hi'n haws iddyn nhw gyflenwi marchnadoedd gan bod eu hoes silff nhw'n ehangach nag un ni," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwyn Howells bod gwersi i'w dysgu o'r ffordd y mae Seland Newydd yn masnachu gyda gwledydd eraill

Ychwanegodd y gallai efelychu'r un llwyddiant helpu'r ymdrechion i sicrhau cytundebau rhyngwladol wedi Brexit.

Mae potensial hefyd i gydweithio yn sgil y ffaith fod y tymhorau cynhyrchu cig oen yn wahanol yn y ddwy wlad.

"Ni'n cynhyrchu mewn un chwe mis a ma' nhw'n cynhyrchu mewn chwe mis arall o'r flwyddyn," meddai Mr Howells.

"Mewn marchnadoedd fel yr Unol Daleithiau, China neu'r Dwyrain Canol, 'dwi'n credu bod modd i ni gydweithio falle'n fwy na sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

"Ond mae'n rhaid i ni hefyd... sortio allan yn gyntaf y fasnach sydd rhyngo Seland Newydd ac Ewrop a Phrydain ar ôl Brexit."