Â鶹ԼÅÄ

Theresa May: 'Pobl yn dod ynghyd' ar Brexit

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theresa May wedi bod yn cwrdd ag arweinwyr busnes yn ne Cymru

Mae'r prif weinidog wedi dweud ei bod yn benderfynol o wneud Brexit yn llwyddiant wrth iddi gwrdd ag arweinwyr busnes Cymru fel rhan o daith o amgylch y DU.

Fe wnaeth Theresa May gynnal y cyfarfod yn ffatri geir Aston Martin yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, ddydd Iau.

Gyda blwyddyn union i fynd nes gadael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd Mrs May ei bod yn "teimlo bod pobl yn dod ynghyd".

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones bod yn rhaid i Brexit ddigwydd, ond bod angen ei wneud mewn ffordd "synhwyrol" yn hytrach na ffordd "gwallgof".

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y prif weinidog ymweld â ffatri geir Aston Martin yn Sain Tathan, Bro Morgannwg

Mae Mrs May wedi bod yn ymweld â phedair gwlad y DU ddydd Iau - gan gynnwys Ayrshire, Newcastle, Belfast a Bro Morgannwg cyn gorffen yng ngorllewin Llundain.

Dywedodd y prif weinidog: "Rydw i'n benderfynol wrth i ni adael yr UE, ac yn y blynyddoedd sydd i ddod, y byddwn yn cryfhau'r cysylltiadau sy'n ein huno, am mai ein hundeb ni yw'r un mwyaf llwyddiannus yn y byd."

Ychwanegodd y byddai "pob un o'r gwledydd datganoledig yn gweld cynnydd yn eu pwerau" ar ôl Brexit.

"Heb os, mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i'r setliadau datganoli, fel rydyn ni wedi'i ddangos gyda deddfwriaeth bwysig dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones bod angen i Brexit ddigwydd mewn ffordd "synhwyrol"

Dywedodd Mr Jones wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Mae'n rhaid i Brexit ddigwydd. Y cwestiwn nawr yw os fydd yn cael ei wneud mewn ffordd gwbl wallgof neu ffordd synhwyrol."

Yn ei farn ef, ffordd "wallgof" fyddai "gadael yn gyflym iawn, gyda dim cytundeb â'r Undeb Ewropeaidd, dim mynediad i farchnad sengl yr UE a gadael yr undeb dollau".

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni'r berthynas orau posib gyda'n marchnad agosaf a phwysicaf," meddai.

"Os ydyn ni'n anwybyddu hynny ni fydd unrhyw beth arall yn gallu cymryd ei le.

"Byddai hynny yn golygu y byddai ffermwyr yn dioddef a swyddi'n dioddef. Does dim rhaid i ni wneud hynny."