Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Peter Rees, chwaraewr rygbi rhyngwladol hynaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Peter Rees

Y cyn-chwaraewr rygbi Peter Rees, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan . Mae Peter yn 93 oed, ac ef yw chwaraewr rygbi rhyngwladol hynaf Cymru.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio mynd i Ysgol Penygroes, Sir Gâr a newid o drowsus byr i drowsus hir! A dwi hefyd yn cofio credu yn Siôn Corn a chwarae gyda beth roedd e wedi dod i fi, a theimlo trueni dros rai o'r bechgyn eraill oedd ddim yn credu, a bod Siôn Corn ddim yn dod i'w gweld nhw!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mynd o flaen y dosbarth yn yr ysgol pan o'n i tua 8 neu 9, am bo' fi wedi bod yn 'smygu, a chael y wialen gan yr ysgolfeistr - er ei fod e'n smoco fel trŵper ei hunan!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n cofio cael fy mhigo gan bicwnen - daeth hwnnw â dagrau i'n llyged i.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

O'n i'n ysmygu pan o'n i'n grwt. Dwi'n cofio'r hen ŵr yn gofyn i mi brynu tybaco iddo a rhoi pishyn tair i mi - o'dd yn lot o arian bryd 'ny. Gyda'r pishyn tair, brynes i becyn o fatshys am hanner ceiniog, pecyn o Woodbine am ddwy geiniog, a loshin am ddime, a'u rhannu gyda fy ffrindie!

Ond dwi ddim yn smocio nawr. Nes i roi smocio lan yn gynnar iawn, gan mod i'n gwneud lot o athletau a rygbi ac edrych ar ôl fy nghorff. Dyna pam dwi dal 'ma heddi!

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael cip ar y môr bob amser yn codi gwên ar Peter, fel pan oedd yn dod ar dripiau ysgol Sul i Aberystwyth

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Amser o'n i'n byw ym Mhenygroes, o'n i'n mynd ar drip ysgol Sul - i lefydd fel Llangrannog, Aberystwyth, Cei Newydd, Dinbych-y-pysgod. Unwaith o'n i'n gweld y môr, o'n i'n jwmpo lan a lawr ar y bws.

Ac am y 60 mlynedd diwetha', fi 'di bod yn byw ym Mhen-bre, a phan dwi'n codi yn y bore y peth cynta' dwi'n dishgwl mas arno yw'r môr. Mae hynny'n hyfryd. Ac wrth gwrs, Parc y Scarlets!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Heddi, pan maen nhw'n pigo tîm Cymru, mae'r chwaraewyr yn gw'bod o flaen llaw. Ond y tro cyntaf i mi wybod mod i wedi cael fy mhigo i chwarae i ngwlad, o'n i ar y bws yn dod nôl o'r Hendy - roedd Y Tymbl wedi bod yn chwarae yn y gwpan. Pwy o'dd yn eistedd wrth f'ymyl oedd Ronnie (o Ryan a Ronnie) a'i dad.

Pan gyrhaeddodd y bws Y Tymbl, daeth un o fois y clwb mas a gweiddi i mewn drwy ddrws y bws: "Mae Peter Rees wedi cael ei gap!" Roedd e wedi clywed ar y radio, ond dyna'r cyntaf i mi glywed amdano. Es i gartre' ac yna i'r clwb ieuenctid â'n chest i'n stico mas!

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Peter ddau gap dros Gymru yn 1947, yn erbyn Ffrainc ac Iwerddon. Cymru oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm, wrth gwrs!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hen ddyn lwcus!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi ddim yn ddarllenwr mawr iawn, ond dwi'n darllen y papur yn ddyddiol. Ond dwi'n darllen llyfrau hen chwaraewyr Cymru bob hyn a hyn hefyd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dwi'n cwrdd â'n ffrindie bob wythnos a ry'n ni'n cael glasied o win coch 'da'n gilydd. Dwi'n licio cymysgu â phobl, a dwi ddim yn colli gêm ym Mharc y Scarlets, felly dwi'n cwrdd â hen ffrindie fan'na, neu'n mynd i'r Clwb Bach ym Mhorth Tywyn.

O Archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Does yna ddim llawer 'dyw pobl ddim yn ei wybod amdana i!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Parc y Scarlets yw'r lle i fynd yn dawel, yng nghanol ffrindie, yn rhoi trownsiad i'r Gweilch yn rhacs!

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r lle y basai Peter yn hoffi treulio'i ddiwrnod olaf - yn ei gartref ysbrydol

Beth yw dy hoff gân a pham?

Sosban Fach, wrth gwrs! A dwi'n hoffi caneuon Dafydd Iwan hefyd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Fi'n mwynhau llawer o lysiau. Mae ready meals yn handi iawn, ond dwi'n mwynhau cwcan yn fawr. Weithiau ffowlyn, ond weithiau ffesant neu gwningen - dwi'n hoffi experimentio! Ac i bwdin - pwdin reis, wrth gwrs.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi'n hapus fel 'yn hunan - dwi ddim wedi g'neud yn rhy ffôl!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Stephen Jones